Tra bo gofyn i bob un ohonom lynu at y canllawiau pellhau cymdeithasol, mae dal yn bosibl inni dreulio amser y tu allan. Y cyfan sydd angen inni ei wneud yw gwneud dewisiadau sy’n ei gwneud yn haws inni gadw ein pellter oddi wrth y rheini sydd ddim yn ein cartref.
Mae’n anodd iawn i blant hunanreoleiddio pan maent yn chwarae, yn enwedig pan maent wedi ymgolli mewn chwarae egnïol neu os oes plant eraill gerllaw, felly efallai y byddant angen ein help gyda hyn.
Efallai y bydd paratoi a chasglu detholiad o eitemau chwarae i fynd gyda chi i’r ardd neu i fan awyr agored yn helpu i gadw pethau’n ddiddorol. Gall eitemau chwarae syml fel peli, rhaffau, cylchau, sialc, teganau bychain fel ceir ac anifeiliaid tegan ei gwneud hi’n haws i blant gael hwyl yn eu hardal leol.
Pan allwn ni, ac os ydym yn teimlo’n ddigon iach i wneud hynny, dylem wneud ein gorau i annog chwarae’r tu allan, waeth beth fo’r tywydd. Edrychwch ar y syniadau hyn ar gyfer chwarae’r tu allan ym mhob tywydd am ysbrydoliaeth.
Chwarae’n egnïol dan do
Mae’r cartref yn le gwych i chwarae. Gall plant wneud defnydd creadigol o ddim ond cornel o ystafell os oes ganddynt rywfaint o deganau neu fanion bethau eraill, a rhyddid i chwarae.
Mae digonedd o syniadau hwyliog sydd ddim angen llawer o le, yn cynnwys hen ffefrynnau fel chwarae cuddio neu greu cuddfan gyda chlustogau a blancedi. Mae plant hŷn yn dal angen lle i chwarae dan do hefyd – mae plant angen bod yn wyllt a chorfforol fel rhan o’u chwarae. Darllenwch ein blog chwarae dan do am amwgrymiadau ac efallai y bydd yr awgrymiadau anhygoel hyn ar gyfer magu plant yn chwareus yn ddefnyddiol hefyd.
Syniadau syml a doniol
Helfa Drysor
Mae helfa drysor yn ffordd wych i gadw’r plant yn brysur ac egnïol o amgylch y cartref. Os hoffech chi gychwyn yn fach, trefnwch helfa fer. Defnyddiwch focs bychan a gofyn i bawb sy’n chwarae lenwi’r bocs gyda chymaint â phosibl o eitemau diddorol ac anarferol sydd i’w cael yn y tŷ. Neu, chwiliwch am enfys yn y tŷ – gofynnwch i bawb sy’n chwarae ddod o hyd i eitemau gyda phob un o liwiau’r enfys arnynt neu rhoddwch liwiau penodol gwahanol i bob plentyn. Er mwyn helpu pawb i glirio, cyfnewidiwch eich eitemau fel bod rhywun arall yn rhoi’r eitemau yn ôl yn eu lle.
Gorymdaith y sŵ neu’r jyngl
Dangoswch i bawb:
- Sut mae cerdded fel eliffant
- Siglo eich pen ôl fel hwyaden
- Sboncio fel cangarŵ
- Ymlusgo fel neidr
- Dringo fel mwnci.
Meddyliwch am fwy – sut mae jiráff, arth, malwen, llyffant, aderyn a chath yn symud?
Mainc Drawst
Defnyddiwch linell o dâp ar lawr, neu ddarn o raff, i gerdded ar ei hyd ac ymarfer cadw eich balans.
Tenis Balŵn
Gan ddefnyddio platiau papur fel racedi, pa mor hir allwch chi gadw’r balŵn oddi ar y llawr? Gwych ar gyfer gweithgaredd unigol neu grŵp. Os allwch chi fynd allan, llanwch y balŵn gyda dŵr a defnyddiwch eich dwylo fel bat! Os nad oes gennych falŵns, beth am roi tro ar sanau wedi eu rholio’n bêl.
Pêl-fasged gyda Sanau
Taflwch y sanau wedi eu rholio’n bêl i mewn i fwced, basged olchi, bag siopa neu focs esgidiau.
Disgo yn y Dydd
Rhowch gerddoriaeth ymlaen a dawnsio. Gallwch hefyd chwarae dawnsio a rhewi. Bob tro y bydd y gerddoriaeth yn stopio, pawb i sefyll yn llonydd.
Cwrs Rhwystrau
Crëwch gwrs rhwystrau dan do gan ddefnyddio clustogau, gobenyddion, byrddau bach a chylchoedd hwla. Gallwch greu mainc drawst ar lawr gyda thâp masgio, rhaff neu gareiau esgid wedi eu clymu at ei gilydd. Gellir defnyddio’r rhain hefyd i greu cylchoedd ar lawr i neidio i mewn ac allan ohonynt.
Gemau amser chwarae traddodiadol
Meddyliwch am eich gemau amser chwarae eich hun – beth am ‘Simon Says’, Mae’r Llawr yn Lafa neu Golau Coch – Golau Gwyrdd? Gofynnwch i’ch plant beth yw eu hoff gêm i’w chwarae ar fuarth yr ysgol a chwiliwch am ffordd i’w chwarae dan do.
Sgots yn y tŷ
Defnyddiwch dâp masgio i greu grid sgots ar lawr a chwarae gyda hosan wedi ei rholio’n bêl yn lle carreg. Wedi diwrnod neu ddau, torrwch sgwariau o blastig swigod, eu tapio yn y grid sgots a chwarae sgots swigod swnllyd!!
Cadw’n iach
Chwarae yw’r ffordd fwyaf naturiol a phleserus i blant fod yn egnïol, cadw’n iach a bod yn hapus. Gall rhieni a gofalwyr ganfod ffyrdd syml i gynnwys amser a lle ar gyfer chwarae ym mywydau bob dydd eu plant. Gall pob math o chwarae helpu plant i fod yn fwy egnïol.
Mae chwarae gyda’n gilydd yn ffordd wych i dreulio amser fel teulu a helpu i ddatblygu sgiliau cyfathrebu a hyder plant. Gall helpu rhieni ac aelodau eraill o’r teulu i gadw’n egnïol hefyd a bydd yn cyfrannu at les gwell i bawb yn ystod cyfnodau o ansicrwydd.
Am fwy o wybodaeth am bwysigrwydd chwarae egnïol, gweler Chwarae’n egnïol yn ac o amgylch y cartref