Teitl swydd: Prif Weithredwr
Mudiad: Plant y Cymoedd
Lleoliad: Penygraig, de Cymru a gweithio o adref
Oriau: Llawn amser
Cyflog: £45,000 y flwyddyn
Dyddiad cau: 26 Chwefror 2021
Mae Plant y Cymoedd yn chwilio am rywun sydd ag egni, brwdfrydedd a phrofiad i adeiladu ar ei lwyddiant a sicrhau bod ysbryd arloesol y mudiad yn ffynnu yn y dyfodol.
Bydd y Prif Weithredwr yn darparu arweinyddiaeth i’r mudiad cyfan a bydd yn gyfrifol am reoli a gweinyddu Plant y Cymoedd o fewn y fframweithiau strategol ac atebolrwydd a osodir gan fwrdd yr ymddiriedolwyr.