Teitl swydd: Darlithydd mewn Chwarae
Mudiad: Prifysgol Abertawe – Cyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol
Lleoliad: Abertawe
Oriau: Llawn amser
Cyflog: £35,326 i £40,927 y flwyddyn
Dyddiad cau: 30 Mehefin 2022
Ar gyfer y swydd Darlithydd mewn Chwarae cyfnod penodol hon, croesewir ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas sydd ag arbenigedd dysgu ac addysgu profedig ar lefel ôl-raddedig. Croesewir ceisiadau gan ymgeiswyr sydd ag arbenigedd mewn un neu fwy o’r meysydd canlynol:
- Deall a gweithredu chwarae ar draws nifer o gyd-destunnau (er enghraifft meithrin, ysgolion, lleoliadau iechyd a gofal)
- Sut mae chwarae'n cefnogi datblygiad plant
- Gwerth therapiwtig chwarae
- Gwybodaeth am ddulliau ymchwil.
Bydd y rôl Darlithydd hon yn gyfle cyffrous i ymuno â'r Adran Addysg ac Astudiaethau Plentyndod uchelgeisiol, a arweinir gan ymchwil, sy'n rhan o Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol.