Teitl swydd: Cadeirydd Bwrdd yr Ymddiriedolwyr
Mudiad: Plant yng Nghymru
Dyddiad cau: 31 Awst 2022
Bydd y Cadeirydd Plant yng Nghymru presennol, Dr Dave Williams, yn rhoi’r gorau i’w swydd yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol (AGM) ym mis Hydref 2022.
Fel Cadeirydd, byddwch yn atebol i Fwrdd yr Ymddiriedolwyr ac i aelodau'r sefydliad am ei lywodraethiant a'i gyfeiriad strategol.
Dylai fod gan ymgeiswyr brofiad o arweinyddiaeth strategol ar lefel uwch mewn sefydliad mawr, boed hynny yn y sector academaidd, statudol neu ddielw. Mae profiad mewn swydd gyhoeddus ac ar Fwrdd Ymddiriedolwyr neu Bwyllgor Rheoli sefydliad tebyg i'w ddymuno'n fawr.
Rhaid bod gan ymgeiswyr ymrwymiad gweladwy a diddordeb mewn hawliau plant, ynghyd â chred angerddol mewn gwella bywydau ein plant a’n pobl ifanc. Dylai'r Cadeirydd fod mewn sefyllfa i fedru siarad yn annibynnol ar ran Plant yng Nghymru.
Mae angen ymrwymiad amser cymedrol i gyflawni swydd y Cadeirydd, ac nid oes cyflog am y gwaith, er bod modd hawlio costau teithio. Ar hyn o bryd mae cyfarfodydd ffurfiol y Bwrdd yn cael eu cynnal bob chwarter, ond dylai'r Cadeirydd ddisgwyl ymrwymo i o leiaf 12 cyfarfod y flwyddyn.