O fis Gorffennaf 2016 ymlaen mae gofyn bod darparwyr gofal plant a chwarae yng Nghymru yn cwblhau Datganiad Hunanasesu Gwasanaeth (SASS) blynyddol ar gyfer Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC).
Roedd yn ofynnol bod darparwyr gofal plant a chwarae yn cwblhau hunanasesiad ac a bydd yn ofynnol iddynt gwblhau adolygiad blynyddol o ansawdd y gofal yn eu gwasanaeth yn ddiweddarach eleni. Mae'r wybodaeth hon yn rhoi gwybod i AGC am eich gwasanaeth a'r system sydd gennych ar gyfer monitro, adolygu a gwella ansawdd y gofal a roddir i blant ac fe'i defnyddir i lywio arolygiad AGC o'ch gwasanaeth.
Mae AGGCC wedi datblygu canllaw ar gyfer y rhan yma a thempled Adolygiad Ansawdd Gofal ar gyfer darparwyr gofal plant a chwarae.
Rhagor o wybodaeth am Rhan 2 SASS a chanllawiau Adolygiad Ansawdd Gofal
Sut y defnyddir y wybodaeth
Bydd arolygwyr AGC yn defnyddio'r wybodaeth hon:
- i gynllunio ar gyfer arolygiad
- i ddylanwadu ar ba agweddau ar eich gwasanaeth i'w blaenoriaethu a'u harolygu
- i lywio nifer yr arolygwyr y gallen nhw eu hanfon i arolygu eich gwasanaeth
- yn dystiolaeth wrth wneud dyfarniadau am eich gwasanaeth (a graddio eich gwasanaeth)
- i gadarnhau bod eich manylion cofrestru'n gyfredol a chywir.
Manteision y system ar-lein
Mae AGC yn symud i system ar-lein ar gyfer y gwaith blynyddol o gasglu data am leoliadau gofal plant cofrestredig yng Nghymru – ni fydd darparwyr yn gallu dewis cyflwyno copi papur. Bydd hyn yn golygu bod AGC a darparwyr yng Nghymru yn dilyn yr un drefn â rheoleiddwyr ledled y Deyrnas Unedig.
Ymhlith manteision system ar-lein i ddarparwyr mae:
- Gostyngiad yn nifer y cwestiynau y mae’n rhaid i ddarparwyr eu hateb, gan na fyddwch ond yn gweld y cwestiynau sy’n berthnasol i’ch lleoliad chi. Datblygwyd y system i fod yn glir ac yn hwylus i’w defnyddio.
- Mae’n ymgorffori rhai o ofynion Asesiadau Digonolrwydd Gofal Plant Awdurdodau Lleol, ac felly’n lleihau’r baich a’r dyblygu ar wybodaeth y mae angen i ddarparwyr ei chyflwyno. Bydd hefyd yn gwella cysondeb y data a gesglir. Wedyn bydd AGC yn rhannu’r wybodaeth berthnasol hon gydag awdurdodau lleol.
- Cynhyrchir nifer o ddogfennau canllaw cysylltiedig a bydd y canllawiau hefyd i’w gweld ar y system ar-lein wrth i’r datganiad hunanasesu gwasanaeth gael ei gwblhau, fel ei bod hi’n haws croesgyfeirio a gwirio.
- Gallwch ddewis cadw eich gwaith a dychwelyd ato’n nes ymlaen o fewn y system. Bydd hyn yn eich helpu i’w gwblhau dros gyfnod o amser.
- Bydd AGC yn anfon copi o adroddiad eich datganiad hunanasesu gwasanaeth atoch chi’n awtomatig drwy e-bost pan fydd wedi cael ei gyflwyno.