Mae Llywodraeth Cymru wedi pennu saith nod craidd yn seiliedig ar Gytundeb y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn fel sail i'w holl waith ar gyfer plant a phobl ifanc. Mae'r nodau hyn yn hysbysu penderfyniadau ar flaenoriaethau ac amcanion yn genedlaethol ac yn hysbysu strategaeth a darpariaeth gwasanaethaun lleol.
Mae'r saith nod craidd yn sicrhau fod pob plentyn a pherson ifanc:
1. wedi datblygu cychwyn da ar fywyd ar sail gorau posibl ar gyfer eu twf a'u datblygiad i'r dyfodol.
Mae darparu cyfleoedd chwarae o safon ar gyfer plant ifanc a theuluoedd yn cynorthwyo datblygiad cysylltiadau cynnar cadarnhaol. Mae chwarae yn hwyluso datblygiad corfforol, emosiynol a meddyliol a dysgu sgiliau sy'n cyfrannu at ddatblygiad iach plant. Mae hefyd yn cefnogi datblygiad sgiliau da ar gyfer magu plant.
2. â mynediad i ystod gynhwysfawr o gyfleoedd addysg, hyfforddiant a dysgu, gan gynnwys caffael sgiliau personol a chymdeithasol hanfodol.
Cydnabyddir y ffaith bod chwarae'n hanfodol i blant a phobl ifanc i ddysgu am eu hunain, am eraill a'r byd o'u hamgylch. Bydd gweithwyr chwarae'n hwyluso cyfleoedd chwarae ar gyfer plant ymhell i'w harddegau a phrofwyd bod darpariaeth fel prosiectau chwarae allanol a meysydd chwarae antur yn denu hyd yn oed ein plant mwyaf eithredig.
Mae darparu hyfforddiant gwaith chwarae o fewn y llwybrau 14 - 19 ar agenda Ymestyn Hawliau yn darparu profiad gwaith ar gyfer pobl ifanc. Bydd pobl ifanc ac oedolion ifanc sy'n cael cyfle i wirfoddoli gyda phrosiectau chwarae cymunedol lleol yn ennill ystod o sgiliau gwasanaethau plant ac entrepreneuriaeth cymdeithasol trosglwyddadwy.
3. yn mwynhau'r iechyd corfforol a meddyliol, cymdeithasol ac emosiynol gorau posibl, gan gynnwys rhyddid rhag camdriniaeth, erledigaeth ac ecsbloetiaeth.
Mae cyfleoedd chwarae o safon yn darparu cryn fuddiannau iechyd corfforol a meddyliol i blant. Gall gweithwyr chwarae hwyluso a chyfoethogi cyfleoedd chwarae lleol yn agos i ble y mae plant yn byw. Mae eu presenoldeb yn caniatáu i blant greu amgylchedd sy'n meithrin eu chwarae ble y maent yn teimlo'n ddiogel yn eu cymuned eu hunain. Mae gweithwyr chwarae allanol, megis rhodwyr chwarae, yn cynorthwyo plant i adennill mannau agored ar gyfer chwarae. Bydd hyn yn cefnogi iechyd a lefelau gweithgarwch corfforol plant, tra'n datblygu ymdeimlad o bwysigrwydd o fewn eu cymunedau eu hunain.
Mae cyfleoedd chwarae wedi eu staffio'n caniatáu i blant brofi ymdeimlad o antur a risg, tra bo help wrth law os oes angen. Ble nad oes darpariaeth chwarae'n bodoli, gwyddom y bydd plant yn chwilio am hwyl a her mewn mannau ac mewn ffyrdd all fod yn beryglus.
4. â mynediad i weithgareddau chwarae, hamdden, chwaraeon a diwylliannol.
Chwarae yw diwylliant plant. Bydd sefyllfaoedd chwarae o safon sy'n darparu amgylchedd chwarae cyfoethog yn cynnig cyfleoedd i blant a phobl ifanc all weithredu fel sbardun i ymuno â gweithgareddau chwaraeon a diwylliannol trefnedig. Yn ogystal, byddant yn darparu cyfle i blant sy'n dewis osgoi strwythur gweithgareddau chwaraeon a diwylliannol trefnedig i ennill profiad yn eu ffordd eu hunain ac ar eu telerau eu hunain.
5. yn cael gwrandawiad, eu trin â pharch, a bod eu hil a'u hunaniaeth diwylliannol yn cael ei gydnabod.
Pan ofynnir beth sy'n bwysig iddynt, mae cyfleoedd chwarae o safon ymysg prif flaenoriaethau plant a phobl ifanc. Pan fyddwn yn gwerthfawrogi chwarae plant, byddwn yn gwerthfawrogi plant.
Mae sefyllfaoedd chwarae wedi eu staffio o safon wrth natur yn rhai cyfranogol ac yn rhai sydd ddim yn gwahaniaethu. Maent yn darparu amgylchedd ble y gall plant arbrofi ac archwilio eu hunaniaeth (pwy ydyn nhw a sut y maent yn edrych) a hunaniaeth eu cyfoedion.
Mae gwaith chwarae wrth natur yn annog a chefnogi cyfranogaeth. Bydd gweithwyr chwarae'n creu mannau ac yn hwyluso cyfleoedd sy'n caniatáu i blant a phobl ifanc newid ac addasu eu hamgylchedd eu hunain i weddu i'w anghenion au dymuniadau eu hunain.
Trwy arsylwi plant yn chwarae mewn amgylchedd cyfoethog, caiff cynllunwyr gyfle i ddysgu o'r hyn y byddant yn ei weld ac i gynllunio gwasanaethau sy'n ymateb yn well i angen ac awydd plant i chwarae.
Bydd darparu ystod o brofiadau ac ymweliadau fel rhan o ymarferion a digwyddiadau cyfranogol yn caniatáu i blant wneud dewisiadau deallus; dylem gofio mai gweddol gyfyng yw profiad plant ac y byddant yn dewis yr hyn y maent yn gyfarwydd ag e.
6. â chartref diogel a chymuned sy'n cefnogi lles corfforol ac emosiynol
Bydd darpariaeth chwarae wedi ei staffio'n darparu cyfle i blant brofi risg a datblygu eu sgiliau rheoli risg eu hunain, yn ogystal â'u strategaethau eu hunain ar gyfer delio â bwlis.
Fel rhan annatod o gymuned, mae darpariaeth chwarae o safon yn magu ymdeimlad o berchenogaeth ymysg plant a phobl ifanc. Ceir hanes cryf o gyfoethogi cydlyniad cymdeithasol trwy gynnwys pobl leol mewn darpariaeth chwarae.
7. ddim o dan anfantais oherwydd tlodi plant.
Mae darpariaeth chwarae mynediad agored sydd wedi ei staffio'n rhad ac am ddim yn y man ble caiff ei ddarparu.
Mae'r cysyniad o amddifadiad chwarae (ble y caiff iechyd, lles a datblygiad hir dymor y plentyn eu amharu gan ddiffyg cyfle i chwarae) yn dal i gael ei drafod, ond mae'n amlwg bod y fath beth â thlodi profiad yn bodoli, all ddigwydd waeth beth fo amgylchiadau neu gefndir cymdeithasol plentyn neu berson ifanc.
Mae darparu hyfforddiant chwarae o safon ar lefel gymunedol yn cynyddu sgiliau aelodau'r gymuned leol ac yn galluogi'r rheini sydd â diddordeb mewn gwaith chwarae, neu yrfa or fath, i ymuno âr gweithlu.