Ym mis Awst 2006 derbyniodd Chwarae Cymru gytundeb dros dair blynedd i helpu i drosglwyddo rhaglen Chwarae Plant Y Gronfa Loteri FAWR yng Nghymru. Daeth y cytundeb hwn i ben ym mis Awst 2009.
Ein rôl o fewn y Rhaglen Plant oedd:
- datblygu arolwg strategol o chwarae plant yng Nghymru
- gweithio gyda mudiadau lleol i'w cynorthwyo i glustnodi bylchau yn y ddarpariaeth a chytuno ar flaenoriaethau ar gyfer buddsoddiad
- darparu cyngor arbenigol i ymgeiswyr a'u cynorthwyo i ddatblygu prosiectau sy'n cwrdd â blaenoriaethau lleol y cytunwyd arnynt ac sy'n cydweddu â strategaethau cenedlaethol.
Mae nodau'r Rhaglen Chwarae Plant yn cynnwys:
- datblygu gofodau chwarae newydd ar gyfer plant yn eu cymunedau;
- datblygu cyfleoedd chwarae sy'n darparu gofod i blant ddewis sut y maent am chwarae;
- datblygu cyfleoedd chwarae mynediad agored wedi eu staffio.
Anelwyd y rhaglen Chwarae Plant at blant hyd at 12 mlwydd oed oedd yn byw yng Nghymru, ac yn arbennig plant rhwng 8-12 oed. Roedd yn rhaglen strategol oedd yn anelu i gael effaith sylweddol ar chwarae plant yng Nghymru. Yn ystod rownd un y rhaglen, cefnogodd Chwarae Plant ddatblygiad y fframwaith oedd ei angen i drosglwyddo chwarae a helpodd i staffio deg o rwydweithiau chwarae rhanbarthol oedd yn cwmpasu Cymru gyfan.
Dyfarnodd Rownd 2 o’r rhaglen grantiau i rwydweithiau chwarae rhanbarthol oedd yn cynnig cyfleoedd chwarae’n uniongyrchol. Roedd y rhaglen Chwarae Plant yn canolbwyntio ar agweddau newydd tuag at brosiectau chwarae wedi eu staffio, ac roedd disgwyl i brosiectau feddwl am brosiectau chwarae creadigol oedd yn cynnig heriau a chyfleoedd amrywiol.
Trwy’r rhaglen hon dyfarnodd MAWR grantiau oedd yn werth cyfanswm o £13miliwn.