Prosiect sy’n cael ei gynnal ar draws Caerdydd a Bro Morgannwg gan Chwarae Cymru yw Llysgenhadon Chwarae Cymunedol.
Bydd y prosiect yn cynnwys gweithio gyda phobl leol i sefydlu Grwpiau Gweithredu Chwarae i ddynodi ffyrdd i gynnal cyfleoedd chwarae rheolaidd. Mae’r prosiect wedi ei ddylunio i wneud y defnydd gorau o asedau cymunedol sy’n bodoli eisoes, fel mannau agored, strydoedd a thiroedd ysgolion. Bydd y grwpiau hyn yn galluogi cymdogaethau i fod yn fwy cyfeillgar at chwarae.
Bydd y prosiect hefyd yn cynorthwyo pobl ifanc 14-19 oed i ddod yn Llysgenhadon Chwarae Cymunedol gwirfoddol trwy dderbyn hyfforddiant, cymwysterau a chyfleoedd profiad gwaith mewn lleoliadau gwaith chwarae, gan eu galluogi i hwyluso cyfleoedd chwarae yn y gymdogaeth.
Gan ddefnyddio adnoddau a chymwysterau Chwarae Cymru sy’n bodoli eisoes, byddwn yn trosglwyddo hyfforddiant gwaith chwarae a mentora parhaus i’r Llysgenhadon yn ystod dwy flynedd gyntaf y prosiect. Bydd y Llysgenhadon yn creu cysylltiadau gydag aelodau o’r gymuned fydd yn cynorthwyo i greu cyfleoedd chwarae amrywiol a chyfoethog yn lleol. Trwy wneud hyn, bydd y prosiect yn ymgysylltu gyda dros 500 o blant.
Bydd gan y Llysgenhadon gyfle unigryw i weithredu fel eiriolwyr dros chwarae a, gan weithio gydag oedolion cefnogol, byddant yn cael effaith gwirioneddol ar y cyfleoedd i chwarae yng nghymunedau’r prosiect.
Er mwyn gweithredu’r prosiect, mae Chwarae Cymru yn gweithio mewn partneriaeth gyda:
- Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales
- Gwasanaethau Chwarae Plant Caerdydd
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro / Tîm Lleol Iechyd y Cyhoedd, Iechyd Cyhoeddus Cymru
- Re-create
- Tîm Datblygu Chwaraeon a Chwarae Bro Morgannwg.
Ein gobaith yw y bydd y gwersi a ddysgwn o’r prosiect yn ein helpu i’w ddatblygu mewn ardaloedd eraill yn y dyfodol.
Ariennir y prosiect drwy’r Gronfa Iach ac Egnïol (HAF) newydd.