
Ar draws Cymru
Ar lefel genedlaethol, mae Chwarae Cymru wedi cydweithio â Llywodraeth Cymru ar ddatblygu ei Bolisi Chwarae, strategaeth, deddfwriaeth, rheoliadau a chanllawiau.
Bydd chwarae'n digwydd yn unrhyw le ble y bydd plant a phobl ifanc yn treulio amser ac mae'n amlygu ei hun yn y mwyafrif o agweddau o'u bywydau. Felly, fel eiriolwr dros chwarae, mae'n bwysig bod Chwarae Cymru'n cyfrannu at ystod eang o ddadleuon a phenderfyniadau polisi - er enghraifft iechyd a lles, addysg, datblygu'r gweithlu, teithio a thrafnidiaeth, a chynllunio.
Rhwng 2000 a 2012, cynhaliodd Chwarae Cymru adolygiadau cenedlaethol Cyflwr Chwarae - dogfennau strategol a ddefnyddiwyd gan Chwarae Cymru a Llywodraeth Cymru i ddeall materion sy’n ymwneud â chwarae plant yng Nghymru.
Pwrpas yr adolygiadau oedd darparu gwybodaeth ynghylch sut yr oedd amrywiol raglenni ariannu a pholisïau cenedlaethol wedi cefnogi darpariaeth chwarae ar lefel leol a materion cyffredin yn ymwneud â chwarae plant. Ers 2013, rydym wedi gweithio gyda Llywodraeth Cymru i adolygu ac adrodd ar Asesiadau Digonolrwydd Chwarae, adroddiadau cynnydd a chynlluniau gweithredu awdurdodau lleol.
Mae copi o gasgliadau ac argymhellion adroddiadau Cyflwr Chwarae ar gael ar gais, e-bostiwch y tîm Cyfathrebiadau:
- Cyflwr Chwarae 2000
- Cyflwr Chwarae 2 (2003)
- Cyflwr Chwarae 3 (2006)
- Ariannu ychwanegol ar gyfer plant anabl - atodiad i Cyflwr Chwarae 3 (2006)
- Cyflwr Chwarae 4 (2009)
- Cyflwr Chwarae 5 (2011-2012)
Rydym yn cyfrannu at amryw o weithgorau yng Nghymru er mwyn cynyddu ymwybyddiaeth am fuddiannau chwarae ac i sicrhau nad yw chwarae plant yn cael ei anwybyddu mewn prosesau creu polisi a llunio penderfyniadau.
Er mwyn cynorthwyo gyda datblygu a gwarchod darpariaeth chwarae plant yn lleol, rydym wedi gweithio i ddatblygu a chynnal rhwydweithiau proffesiynol sy’n cwmpasu pob awdurdod lleol yng Nghymru, gan gynnwys Rhwydwaith Chwarae Strategol Cymru. Mae’r rhwydwaith cenedlaethol hwn o swyddogion datblygu chwarae yn dwyn ynghyd gydweithwyr o awdurdodau lleol yn ogystal â’r sectorau gwirfoddol.
Yn y DU
Mae Chwarae Cymru hefyd yn cyfrannu tuag at waith polisi'r DU - mewn cydweithrediad ag ystod o fudiadau cenedlaethol eraill trwy'r DU sydd â diddordeb mewn chwarae plant a phobl ifanc neu ddatblygiad gweithlu gwaith chwarae.
Rhagor o wybodaeth am y Fforwm Polisi Chwarae Plant
Rhagor o wybodaeth am y Play Safety Forum
Rhyngwladol
Mae Chwarae Cymru'n aelod gweithgar o'r International Play Association - sy'n hyrwyddo hawl y plentyn i chwarae. Mae'r IPA yn gorff anllywodraethol rhyngwladol a sefydlwyd ym 1961 i amddiffyn, gwarchod a hyrwyddo hawl y plentyn i chwarae fel hawl dynol sylfaenol.