Mae Cyngor Addysg a Hyfforddiant Gwaith Chwarae Cymru (PETC Cymru) yn darparu fforwm i’r sector drafod materion o bwys strategol ar bob agwedd o addysg, hyfforddiant a chymwysterau gwaith chwarae yng Nghymru, a gwneud argymhellion i PETC UK.
Mae Chwarae Cymru’n darparu’r ysgrifenyddiaeth ar gyfer PETC Cymru. Cynhelir cyfarfodydd bedair gwaith y flwyddyn.
Mae swyddogaethau PETC Cymru yn cynnwys:
- Cymeradwyo cymwysterau gwaith chwarae i ymddangos ar y Rhestr o Gymwysterau Gofynnol a gynhelir gan y cyngor sgiliau sector arweiniol ar gyfer gwaith chwarae.
- I ddarparu cyngor ac arweiniad i Lywodraeth Cymru, Cymwysterau Cymru, Gofal Cymdeithasol Cymru ac Arolygiaeth Gofal Cymru ar faterion sy’n ymwneud ag addysg, hyfforddiant a chymwysterau yng Nghymru.
- I rannu gwybodaeth gyda Chynghorau Addysg a Hyfforddiant Gwaith Chwarae cenedlaethol eraill.
- I dderbyn adroddiadau a gwneud argymhellion ar agweddau allweddol yn natblygiad a chyflawniad cymwysterau gwaith chwarae, ac ar faterion asesu a dilysu sy’n berthnasol i gymwysterau gwaith chwarae yng Nghymru.
- I fonitro a chefnogi agweddau o Cymru - gwlad lle mae cyfle i chwarae (Llywodraeth Cymru 2014) sy’n ymwneud â datblygu’r gweithlu gwaith chwarae
- I dderbyn adroddiadau a gwneud argymelliadau ar ddatblygiad hyfforddiant a chymwysterau gwaith chwarae i Gymwysterau Cymru.
Yr Aelodau presennol
Mae Cylch Gorchwyl PETC Cymru yn diffinio pwy all fod yn aelodau. Mae Aelodau sydd â Phleidlais yn cynrychioli cyflogwyr gwaith chwarae, mudiadau cenedlaethol sydd â diddordeb mewn chwarae a gwaith chwarae, a darparwyr hyfforddiant.
Mae’r aelodau presennol yn cynnwys:
- Chwarae Cymru
- Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs
- Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales
- Cymwysterau Cymru
- Llywodraeth Cymru
- Gofal Cymdeithasol Cymru
- Cyflogwyr gwaith chwarae.
Am ragor o wybodaeth am PETC Cymru cysylltwch â'n Tim Datblygu'r Gweithlu
Lawrlwytho Cylch Gorchwyl PETC Cymru