Gall elusennau sydd wedi'u cofrestru a'u lleoli yn y DU sy'n targedu anghenion iechyd cymunedol ac sydd â hanes o gyflawniad wneud cais am y gwobrau GSK Impact. Bydd y prif enillydd yn derbyn £50,000, a bydd nifer o wobrau ychwanegol rhwng £4,000 a £40,000 yn cael eu dyfarnu.
Mae’r GSK IMPACT Awards yn rhaglen flynyddol, sy'n cael ei ariannu gan GSK mewn partneriaeth â The King’s Fund. Maent yn cydnabod gwaith parhaus rhagorol elusennau sy’n canolbwyntio ar naill ai cymunedau daearyddol neu gymuned o ddiddordeb.
Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais yw 1 Medi 2022, a bydd y seremoni wobrwyo yn cael ei chynnal yn Llundain ym mis Mai 2023.