Newyddion

Cofrestru i dderbyn y diweddaraf ar chwarae plant a gwaith chwarae yn rheolaidd

Communication Preferences

Please state how you would prefer to be contacted.
To view our privacy policy, click here.

Yn ôl i Newyddion

Awgrymiadau anhygoel newydd ar gyfer dathlu Diwrnod Chwarae

22-07-2021

Image for Awgrymiadau anhygoel newydd ar gyfer dathlu Diwrnod Chwarae

Ar Ddiwrnod Chwarae – Dydd Mercher 4 Awst 2021 – rydym yn annog pob lleoliad sy’n gweithio gyda phlant i neilltuo’r diwrnod ar gyfer chwarae. Er mwyn helpu lleoliadau, rydym wedi datblygu rhestr o awgrymiadau anhygoel ar gyfer Diwrnod Chwarae chwareus. Mae’n cynnig awgrymiadau ymarferol ar gyfer rhoi digon o amser, lle a chaniatâd i blant chwarae.

Y thema ar gyfer Diwrnod Chwarae eleni yw Haf o Chwarae. Mae’r thema yn cydnabod yr heriau y mae plant a phlant yn eu harddegau wedi eu hwynebu dros y flwyddyn ddiwethaf a’r angen i fwynhau amser i chwarae’n rhydd o gyfyngiadau, gyda’u ffrindiau, yn cael hwyl.

Lawrlwytho | gweld ar-lein