Mae angen i chwarae ac iechyd meddwl a chorfforol da ddod yn gyntaf mewn ysgolion yn y DU i alluogi plant i ddal i fyny yn academaidd, meddai academyddion mewn trafodaeth bord gron yr International Public Policy Observatory (IPPO).
Mae canlyniadau’r drafodaeth wedi eu cyflwyno yn y papur adroddiad Wellbeing recovery: what should summer support programmes look like for schoolchildren this year? Mae’n cyflwyno tystiolaeth sy’n dangos ni ddylid llenwi haf 2021 â gwersi ychwanegol. Yn hytrach, mae angen amser a lle ar blant, rhieni ac athrawon i wella, ailgysylltu ac ailadeiladu hyder yn dilyn heriau’r pandemig coronafeirws.
Mae’r papur yn trafod ystyriaethau allweddol i unrhyw gynllun adfer i blant yn ystod gwyliau’r haf. Mae’r ystyriaethau allweddol yn cynnwys darparu gweithgareddau gwerthfawr fel chwarae a threulio amser yn yr awyr agored er mwyn helpu plant i oresgyn unigrwydd a hyrwyddo lles.
Yn ychwanegol, mae’n cynnig awgrymiadau ymarferol i ysgolion, gan gynnwys rhaglenni haf strwythuredig gydag amser ar gyfer chwarae rhydd a chefnogaeth wedi’i theilwra ar gyfer plant sydd angen mwy o gymorth.