Mae Warburtons Community Grant yn gronfa er mwyn cefnogi sefydliadau elusennol yng Nghymru, Lloegr a’r Alban. Mae grantiau o hyd at £400 ar gael i fynd tuag at weithgareddau sy’n gwella iechyd, lle neu sgiliau ar gyfer teuluoedd yn eu cymuned.
Bydd y becws neu ddepo Warburtons agosaf i’r sefydliad elusennol yn derbyn y cais am gyllid ac yn gwneud penderfyniad. Bydd penderfyniad yn cael ei wneud o fewn chwech wythnos i’r dyddiad cau.
Dyddiad cau ar gyfer danfon ceisiadau: 10 Mai 2021