Mae plant yn chwarae llai nawr o'i gymharu â chyfnod clo cenedlaethol cyntaf yng Nghymru
15-02-2021
Roedd plant 7 i 11 mlwydd oed yng Nghymru yn chwarae llai ym mis Ionawr 2021, o’i gymharu â mis Mai 2020 yn ôl canlyniadau arolwg Cymru gyfan newydd. Cynhaliwyd yr arolwg gan Gomisiynydd Plant Cymru, Sally Holland.
Mae’r canfyddiadau yn adroddiad Coronafeirws a Fi: Ail arolwg cenedlaethol o safbwyntiau a phrofiadau plant a phobl ifanc yng Nghymru yn dangos bod pobl ifanc 12 i 18 mlwydd oed hefyd yn ymlacio llai o’i gymharu â mis Mai 2020.
Mae plant wedi adrodd eu bod nhw’n gweld eisiau chwarae yn yr awyr agored yn enwedig wrth siarad am barciau, meysydd chwarae a thraethau. Adroddodd rhai plant eu bod nhw’n gweld eisiau chwarae tu allan gyda ffrindiau, gyda llawer ohonynt yn nodi eu bod bellach yn chwarae ar-lein fwy.
Mae’r adroddiad yn seiliedig ar ganlyniadau’r arolwg Coronafeirws a Fi, a gwblhawyd gan bron 20,000 o blant a phobl ifanc 3 i 18 oed, ym mis Ionawr 2021.
Dywed Chwarae Cymru:
‘Er nad yw hyn yn ein synnu, mae Chwarae Cymru yn bryderus clywed bod yr arolwg Coronafeirws a Fi diweddaraf yn dangos gostyngiad yn nifer y plant sy’n adrodd eu bod wedi treulio mwy o amser yn chwarae. Rydym yn adnewyddu ein galwadau i roi chwarae wrth galon cefnogi plant fel rhan o adferiad coronafeirws, yn enwedig wrth i rai ddychwelyd i'r ysgol. Rydym yn ymuno â’r Comisiynydd Plant i bwysleisio ffocws ar les, a dychweliad cefnogol. Rhaid cael amser penodol i blant o bob oed chwarae ac ymlacio gyda'i gilydd. Nid yw hyn yn achos o ddewis rhwng darparu ar gyfer dal i fyny ag addysg neu chwarae – mae chwarae'n cynnig cyfle i blant gadw'n iach ac yn hapus. Pan fydd plant yn iach ac yn hapus, maent mewn gwell sefyllfa i ddysgu a chysylltu.’