Mae Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs yn cynnig cymhwyster Dyfarniad Lefel 3 mewn Trawsnewid i Waith Chwarae (o’r Blynyddoedd Cynnar), a fydd yn cael ei ariannu yn llawn, i 1,000 o ddysgwyr dros gyfnod o ddwy flynedd.
Mae’r Dyfarniad Lefel 3 mewn Trawsnewid i Waith Chwarae (o’r Blynyddoedd Cynnar) yn caniatáu dysgwyr i ennill cymwysterau gwaith chwarae mewn 12 wythnos. Mae’r hyfforddiant ar gael i ddysgwyr sydd eisoes â chymhwyster Gofal Plant Lefel 3.
Defnyddir y dull cymysg o gyflenwi, gan ystyried anghenion y dysgwyr, a bydd yn dilyn canllawiau Llywodraeth Cymru yn ystod y pandemig coronafeirws.
Mae hyn yn rhan o raglen Cynnydd ar gyfer Llwyddiant.