Darpariaeth gofal plant a gwaith chwarae dros hanner tymor mis Chwefror
11-02-2021
Mewn llythyr i’r sector gofal plant a gwaith chwarae, mae Llywodraeth Cymru wedi esbonio nid oes unrhyw gyfyngiadau gweithredol ar waith ar gyfer lleoliadau gofal plant a gwaith chwarae yng Nghymru. Mae hyn yn golygu y gall lleoliadau aros ar agor a pharhau i ofalu am bob plentyn, os ydynt yn dymuno, dros hanner tymor mis Chwefror. Mae’r lleoliadau yn cynnwys gofal dydd, gwarchod plant, gofal sesiynol, crèche, darpariaeth y tu allan i’r ysgol a gwyliau a darpariaeth Dechrau’n Deg.
Mae Llywodraeth Cymru wedi pwysleisio y dylai lleoliadau sy’n bwriadu bod ar agor barhau i weithredu yn unol â chanllawiau Mesurau diogelu mewn lleoliadau gofal plant: cadw gofal plant yn ddiogel. Os yw’n bosibl, dylai lleoliadau fanteisio ar fynd allan yn yr awyr agored gymaint â phosibl.
Mae’r llythyr hefyd yn darparu gwybodaeth am gadw grwpiau cyswllt o fewn y lleoliad yn fach ac yn gyson. Os bydd lleoliadau’n derbyn plant o fwy nag un ysgol, dylai’r plant fod mewn grwpiau cyswllt yn yr ysgol o leiaf, ond byddai’n well pe byddent mewn grwpiau blwyddyn neu ddosbarth.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cynhyrchu’r canllawiau Diogelu Cymru yn y gwaith, sy’n manylu’r camau y dylai cyflogwyr eu cymryd. Mae’n ofynnol i bob lleoliad gynnal asesiad risg o dan COVID yn y gweithle yn dilyn y newidiadau diweddar i’r gyfraith, a dylai’r asesiad gael ei gwblhau cyn gynted â phosibl.