Mae Llywodraeth Cymru yn casglu barn ar ddiweddariad i’r Cynllun Hawliau Plant. Mae’r Cynllun Hawliau Plant Drafft 2021 yn dangos sut mae Llywodraeth Cymru yn rhoi ystyriaeth gytbwys i hawliau plant wrth wneud penderfyniadau.
Mae Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar y canlynol:
- Sut mae’r cynllun yn amlinellu cynlluniau gweinidogion i gefnogi hawliau plant
- Sut i wneud mwy i ddylanwadu ar benderfyniadau’r llywodraeth
- Sut y gall gweinidogion wneud yn siŵr bod pawb yn gwybod am hawliau plant a’u cefnogi.
Mae hefyd fersiwn plant a phobl ifanc o’r ddogfen ymgynghori, er mwyn rhoi cyfle i bawb i ddweud eu dweud ar y cynllun.
Dyddiad cau ar gyfer ymateb i’r ymgynghoriad: 26 Mawrth 2021