Mewn datganiad ysgrifenedig, mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething wedi cynghori’r rhai sy’n eithriadol o agored i niwed yn glinigol ac oedd yn rhan o’r cynllun ‘gwarchod’ gynt i beidio mynd i’r gwaith na’r ysgol y tu allan i’w cartref. Mae’r cyngor hwn yn arbennig o berthnasol i’r rhai sy’n gweithio mewn swydd sydd â chysylltiad rheolaidd neu barhaus â phobl eraill.
Mae cyngor Llywodraeth Cymru yn seiliedig ar nifer o ffactorau gan gynnwys y twf sylweddol yn y cyfraddau heintio a’r pwysau sydd ar y gwasanaeth iechyd, gyda niferoedd cynyddol o gleifion mewn ysbytai.