Mae canfyddiadau astudiaeth ledled y DU yn dangos bod 44 y cant o rieni gyda phlant o dan bump oed o’r farn bydd datblygiad ymennydd a meddwl eu plant yn well oherwydd y pandemig. Bydd yn well o ganlyniad i dreulio fwy o amser yn chwarae yn ôl 68 y cant o rieni.
Cyhoeddwyd canfyddiadau arolwg ‘5 Big Questions’, a dderbyniodd dros hanner miliwn o ymatebion gan rieni, yn yr adroddiad State of the nation: understanding public attitudes to the early years.
Mae canfyddiadau eraill o’r arolwg, a gynhaliwyd gan Ipsos MORI, yn cynnwys 98 y cant o rieni yn credu bod magwraeth yn hanfodol i ganlyniadau gydol oes i blant. Fodd bynnag, dim ond un o bob pedwar sy’n cydnabod pwysigrwydd penodol pum mlynedd gyntaf bywyd plentyn ar gyfer darparu iechyd a hapusrwydd gydol oes.