
Mae’r adroddiad effaith yn cynnig trosolwg o waith a chyflawniadau Chwarae Cymru dros y flwyddyn 2019-2020 wrth ymgyrchu dros chwarae plant.
Mae’n cynnwys gwybodaeth ac enghreifftiau am sut yr ydym wedi:
- cefnogi blaenoriaethau cenedlaethol ac ymgysylltu â’n cynulleidfa
- darparu cyfleoedd a chynhyrchu adnoddau i sicrhau bod y gweithlu chwarae ac unrhyw un sydd â diddordeb mewn chwarae plant yn derbyn y wybodaeth ddiweddaraf
- cydweithio yn lleol ac yn genedlaethol ar draws Cymru
- ymgysylltu â chynulleidfaoedd newydd i hyrwyddo’r hawl i chwarae ymhellach
- comisiynu a chyhoeddi ymchwil i hysbysu ein gwaith.
Mae'r adroddiad hefyd yn cynnwys rhagair gan Gadeirydd Chwarae Cymru, Dr Mike Shooter CBE, yn ogystal ag adran ar sut y byddwn ni'n gweithio i barhau i gefnogi a hyrwyddo chwarae plant er mwyn creu Cymru sy'n chwarae-gyfeillgar.