O 1 Ionawr 2021, bydd disgwyl i ddarparwyr gofal plant yng Nghymru i ddilyn y Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir yn achos plant hyd at 12 oed, yn y ffordd arferol. Bydd y cyfnod llacio dros dro ar gyfer rhai o’r gofynion yn y SGC ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru, yn dod i ben ar 31 Rhagfyr 2020.
Mae Llywodraeth Cymru yn deall bod rhai darparwyr yn dal i brofi anawsterau wrth geisio cael gafael ar gyrsiau cymorth cyntaf ymarferol, am eu bod yn cael eu canslo neu eu gohirio yn sgil cyfyngiadau Covid-19. Mae Arolygiaeth Gofal Cymru yn darparu gwybodaeth am hyfforddiant cymorth cyntaf a chyngor pellach defnyddiol a chyfredol am Covid-19.