Dengys canfyddiadau astudiaeth a arweinwyd gan blant mewn ysgol yn Lloegr bwysigrwydd amser chwarae i hyrwyddo lles, iechyd meddwl, datblygiad cymdeithasol ac emosiynol plant.
Mae Child-led research investigating social, emotional and mental health and wellbeing aspects of playtime yn trafod sut mae buddiannau amrywiol amser chwarae, fel y cyfle i wneud ffrindiau neu gael rhywun i chwarae gyda, i gyd yn gwneud cyfraniad pwysig tuag at les a datblygiad plant.
Cynhaliwyd yr ymchwil gan ymchwilwyr ym Mhrifysgol Manceinion, Siân Bristow a Cathy Atkinson. Mae’r adroddiad yn pwysleisio bod y plant wedi medru cymryd rhan effeithiol yn yr ymchwil. Hyfforddwyd plant 9 i 10 oed fel cyd-ymchwilwyr a fe’u cefnogwyd i ddylunio a hwyluso casglu data ar gyfer yr ymchwil.