Newyddion

Cofrestru i dderbyn y diweddaraf ar chwarae plant a gwaith chwarae yn rheolaidd

Communication Preferences

Please state how you would prefer to be contacted.
To view our privacy policy, click here.

Yn ôl i Newyddion

Chwarae Cymru – gohirio digwyddiadau

17-03-2020

Image for Chwarae Cymru – gohirio digwyddiadau

Mae Chwarae Cymru wedi bod yn monitro datblygiad y sefyllfa Coronafeirws ac, yn dilyn cyngor a chyhoeddiadau diweddar y Llywodraeth, rydym wedi penderfynu gohirio’r digwyddiadau canlynol:

  • Cynhadledd Ysbryd – 14 Mai 2020
  • Fforwm Gweithwyr Chwarae – 25-26 Mehefin 2020.

 

Rydym yn bwriadu aildrefnu’r ddau ddigwyddiad yn hwyrach yn y flwyddyn os yn bosibl, a byddwn yn cyhoeddi diweddariadau ar ein gwefan a’n cyfryngau cymdeithasol.

Gall cyfranogwyr sydd eisoes wedi archebu lle un ai ddewis i gadw eu lle ar gyfer y dyddiadau newydd neu dderbyn ad-daliad llawn.

Rydym hefyd yn adolygu sut y gallwn barhau i drosglwyddo ein cyfarfodydd, digwyddiadau rhwydwaith a chyfathrebiadau allanol er mwyn sicrhau bod y cyngor a’r gefnogaeth yr ydym yn ei gynnig yn dal i gefnogi anghenion chwarae pob plentyn yng Nghymru.