Newyddion

Cofrestru i dderbyn y diweddaraf ar chwarae plant a gwaith chwarae yn rheolaidd

Communication Preferences

Please state how you would prefer to be contacted.
To view our privacy policy, click here.

Yn ôl i Newyddion

Maniffesto ar gyfer chwarae plant yng Nghymru

02-12-2019

Image for Maniffesto ar gyfer chwarae plant yng Nghymru

Mae Maniffesto ar gyfer chwarae plant yng Nghymru Chwarae Cymru’n galw ar i Lywodraeth y DU i ddilyn arweiniad Llywodraeth Cymru trwy flaenoriaethu darparu ar gyfer chwarae.

Rydym yn gofyn i bob plaid wleidyddol gydnabod bod cael amser, rhyddid a mannau da ar gyfer chwarae o’r pwys mwyaf i bob plentyn, eu teuluoedd a’r gymuned ehangach.

Mae’r Maniffesto wedi’i seilio ar y corff cynyddol o dystiolaeth gadarn sy’n cefnogi manteision tymor hir ac uniongyrchol darparu ar gyfer chwarae plant. Dengys astudiaethau fod manteision iechyd hir dymor chwarae yn cynnwys rhoi hwb i lefelau gweithgaredd corfforol sy’n helpu i fynd i’r afael â gordewdra plant, a chefnogi plant i fod yn fwy gwydn.

I’r plant eu hunain, chwarae yw un o agweddau pwysicaf eu bywyd – maent yn gwerthfawrogi amser, rhyddid a mannau o ansawdd uchel i chwarae. Mae chwarae’n elfen gref o adeiladu plant hapus, iach a medrus. Mae o fudd hefyd i deuluoedd, cymunedau a chymdeithas.

Mae’r etholiad gyffredinol ym mis Rhagfyr 2019 yn gyfle i bob un ohonom amlygu’r hyn yr ydym ni’n gofyn amdano ar gyfer chwarae. Efallai y bydd y Maniffesto yn ddefnyddiol ar gyfer ein helpu i lunio cwestiynau i’w gofyn i wleidyddion wrth iddyn nhw ymgyrchu’n lleol yn y paratoadau ar gyfer yr etholiad. 

Lawrlwytho | gweld ar-lein