Mae archwilio a phrofi'r potensial a'r heriau a gyflwynir gan y byd naturiol a'r bedair elfen yn ymddygiad dynol sy'n cyfrannu at ein lles, ein gwytnwch a'n goroesiad fel rhywogaeth.
Mae chwarae â'r elfennau'n cyfrannu at wybodaeth a gwerthfawrogiad plant o'r byd o'u hamgylch - pleser a pherygl, cryfder a breuder organeddau a grymoedd naturiol.
Y dyddiau hyn, am nifer o resymau cymhleth, caiff plant a phobl ifainc eu hatal rhag chwarae mewn amgylcheddau naturiol - mae hyn yn arbennig o wir am rai plant anabl.
Mae Polisi Chwarae Llywodraeth Cymru (2002) yn datgan bod angen darparu amgylcheddau chwarae sy'n gwneud yn iawn i blant am golli mannau chwarae naturiol ble y gallant chwarae. Gellir ymestyn profiadau chwarae plant a phobl ifanc mewn safle neu sefyllfa ble fo oedolion profiadol ar gael sy'n deall a hwyluso eu chwarae.
Oherwydd y rhesymau a amlinellwyd uchod, mae symudiad ar droed tuag at ddarparu ardaloedd chwarae naturiol ble ceir nodweddion megis boncyffion coed, twmpathau glaswelltog, tywod, graean a phlannu naturiol. Mae ardaloedd chwarae o'r fath wedi eu dylunio i newid yn naturiol gyda'r tymhorau er mwyn darparu gwahanol brofiadau chwarae trwy gydol y flwyddyn.
Papur briffio – Plant sy’n Derbyn Gofal a’r Amgylchedd Naturiol
Mae’r papur briffio Plant sy’n Derbyn Gofal a’r Amgylchedd Naturiol yn amlinellu’r rhesymau dros bwysigrwydd rhoi mynediad i blant sy’n derbyn gofal at chwarae tu allan ym myd natur. Mae’n trafod manteision a hawliau plant i chwarae, yn cynnig syniadau ynglŷn â’r mathau o chwarae allan ym myd natur. Mae’n hyrwyddo dull risg-budd at ofal, yn hytrach na dull gwrth-risg.
Mae’r papur briffio hwn wedi ei anelu at ofalwyr maeth a gweithwyr proffesiynol gofal cymdeithasol sy’n gweithio gyda phlant sy’n derbyn gofal. Fe’i datblygwyd fel rhan o’r Prosiect Meithrin Chwarae Allan, sy’n anelu
at wella canlyniadau iechyd corfforol a meddyliol plant sy’n derbyn gofal drwy gefnogi gofalwyr maeth a gweithwyr proffesiynol gofal cymdeithasol i ddarparu gweithgareddau rheolaidd ac aml o ansawdd uchel a chwarae allan ac yn yr amgylchedd naturiol.
Caiff y prosiect ei reoli drwy Learning Through Landscapes (LTL). Mae Chwarae Cymru a BAAF Cymru (Cymdeithas Mabwysiadu a Maethu Prydain) yn bartneriaid yn y prosiect. Ysgrifennwyd y papur gan Holly Gordon o BAAF (British Agencies for Adoption and Fostering) ar gyfer Learning through Landscapes gyda chefnogaeth gan Chwarae Cymru.
Gweld papur briffio ar-lein | Lawrlwytho’r papur briffio
Adnoddau eraill
Casey, T (2007) Environments for Outdoor Play: A Practical Guide to Making Space for Children. Llundain: Sage Publications Ltd
Davis, L., White, A. et al (2009) Nature Play: Maintenance Guide. Llundain: National Children's Bureau
Gill, T. (2011) Sowing the Seeds: Reconnecting London's children with nature. Llundain: Greater London Authority (London Sustainable Development Commission)
Lester, S. a Maudsley, M. (2007) Play, Naturally: A review of children's natural play. Llundain: Play England
Moss, S. (2012) Natural Childhood. Ymddiriedolaeth Cymru
RSPB Cymru (2012) Every Child Outdoors Wales. RSPB
Shackell, A., Butler, et al (2008) Design for Play: A guide to creating successful play spaces. Llundain: The Department for Children, Schools and Families (DCSF) and the Department for Culture, Media and Sport (DCMS)
Sobel, D. (2008) Childhood and Nature: Design Principles for Educators. Portland, ME: Stenhouse Publishers
Sobel, D. (2002) Children's Special Places: Exploring the Role of Forts, Dens and Bush Houses in Middle Childhood. Detroit, MI: Wayne State University Press
Sobel, D. (1998) Mapmaking with Children: Sense-of-place Eduaction for the Elementary Years. Abingdon: Greenwood Press