
Mae gan bob plentyn hawl ac angen i chwarae - bydd y rhan fwyaf yn chwarae yn unrhyw le ac ar unrhyw adeg oni bai eu bod wedi blino'n arw, yn sâl, eisiau bwyd, yn boeth, yn oer, yn bryderus neu'n ofnus - yn enwedig ble fo plant eraill o amgylch. Bydd rhai plant angen cymorth eraill i allu gwneud y gorau o'u chwarae.
Bydd y rhan fwyaf o blant yn chwarae heb angen ymyrraeth oedolion, hyd yn oed yn yr amgylcheddau mwyaf diffaith, ond amgylchedd sy'n gyforiog o bosibiliadau fydd yn cefnogi eu chwarae orau. Bydd rhai plant angen cymorth eraill i wneud y gorau o'r amgylchedd o'u hamgylch a chwmni plant eraill.
Mae amgylchedd chwarae cyfoethog:
- yn amgylchedd ffisegol amrywiol a diddorol sy'n mwyafu'r posibiliadau ar gyfer cymdeithasu, creadigedd, dyfeisgarwch a her.
- yn fan ble y bydd plant yn teimlo'n rhydd i chwarae yn eu ffordd eu hunain, ac ar eu telerau eu hunain.
Darpariaeth chwarae
Ble nad oes gan blant fynediad i ffrindiau'n lleol, nac amser a mannau i chwarae sy'n cefnogi eu anghenion chwarae, gall darpariaeth chwarae wneud yn iawn am hyn trwy gynnig man ble y gall plant ddyfeisio ac ymestyn eu chwarae eu hunain:
- yr ardal chwarae leol
- parciau
- canolfannau chwarae
- meysydd chwarae antur wedi eu staffio
- gofal y tu allan i'r ysgol
- cynlluniau chwarae
- grwpiau chwarae
- meithrinfeydd
- ysgolion
Bydd darpariaeth chwarae o safon yn cynnig cyfle i bob plentyn a pherson ifanc i gael rhyddid i ryngweithio â, neu i brofi, y canlynol:
- plant a phobl ifanc eraill - gyda'r dewis i chwarae ar eu pen eu hunain neu gydag eraill, i drafod, i gydweithio, i ddadlau, a datrys anghydfodau
- y byd naturiol - y tywydd, coed, planhigion, pryfetach, anifeiliaid, mwd
- rhannau rhydd - deunyddiau naturiol a synthetig y gellir eu trin a'u trafod, eu symud a'u haddasu, eu hadeiladu neu eu chwalu
- y pedair elfen - daear, awyr, tân a dŵr
- her ac ansicrwydd - ar lefel corfforol ac emosiynol hefyd
- newid hunaniaeth - chwarae rôl a gwisgo i fyny
- symud - rhedeg, neidio, dringo, cydbwyso, rholio
- chwarae gwyllt - chwarae ymladd
- y synhwyrau - synau, gwahanol flas a gwead, aroglau a golygfeydd
- teimladau - poen, llawenydd, hyder, ofn, dicter, bodlonrwydd, diflastod, diddordeb, hapusrwydd, galar, gwrthodiad, derbyniad, tristwch, balchder, rhwystredigaeth
Mae ffynonellau eraill ar gyfer mannau a gofodau chwarae yn cynnwys:
PLAYLINK
Child Friendly Cities