Mae maniffesto Chwarae Cymru, Cymru – lle chwarae gyfeillgar, yn galw ar Lywodraeth nesaf Cymru i flaenoriaethu chwarae. Rydym yn gofyn i bob plaid wleidyddol i ddal ati i gefnogi gweithredu’r Ddyletswydd Digonolrwydd Chwarae statudol.
Wrth i Gymru barhau i ddod at ei hun wedi effaith y pandemig, mae Chwarae Cymru’n annog Llywodraeth nesaf Cymru i barhau ei draddodiad cryf o gefnogi hawl plant i chwarae. Rydym yn eich annog i wneud ymrwymiadau traws-bolisi i sicrhau bod cyfleoedd plant i chwarae’n cynyddu a gwella. Mae blaenoriaethu chwarae plant yn sicrhau buddiannau profedig i deuluoedd a chymunedau, a hynny’n uniongyrchol ac yn y tymor hir.
Bydd etholiad nesaf Senedd Cymru | Welsh Parliament, ar 6 Mai 2021, yn gyfle i bob un ohonom amlygu’r hyn yr ydym ni’n gofyn amdano ar gyfer chwarae yng Nghymru. Gall y maniffesto a’r daflen ffeithiau cefnogol, ein helpu i lunio cwestiynau i’w gofyn i wleidyddion wrth iddyn nhw ddechrau ymgyrchu’n lleol yn y paratoadau ar gyfer yr etholiad. Pan fydd darpar Aelodau’r Senedd yn dod i gysylltiad â ni, gall pob un ohonom ddefnyddio’r cyfle i ofyn iddyn nhw beth maen nhw’n mynd i’w wneud dros chwarae plant.
Rydym wedi rhannu ein maniffesto gyda phrif bleidiau gwleidyddol Cymru, ac rydym ni’n gobeithio eu bod wedi ei gael yn ddefnyddiol wrth ddatblygu eu blaenoriaethau a’u hagenda eu hunain ar gyfer Cymru. Mae ganddo’r potensial, i ddylanwadu ar gamau gweithredu llywodraeth nesaf Cymru.
Lawrlwytho’r maniffesto | gweld ar-lein
Lawrlwytho’r daflen ffeithiau | gweld ar-lein