Mae Cymru – gwlad chwarae-gyfeilgar yn ymgyrch gan Chwarae Cymru i hybu a gwarchod yr hawl i chwarae mewn cymunedau yng Nghymru.
Mae’n ymgyrch y gall cymunedau ei defnyddio i sefydlu eu ymgyrchoedd lleol eu hunain dros chwarae plant a bod yn rhan o ymgyrch genedlaethol ar yr un pryd.
Mae Chwarae Cymru wedi creu tudalen Facebook ar gyfer 'Cymru – Gwlad Chwarae-Gyfeillgar' er mwyn helpu i ffurfio rhwydwaith o gefnogaeth ar gyfer chwarae ar draws Cymru.
Gallwch ei defnyddio i leisio eich barn, i gyhoeddi eich lluniau ac i hysbysebu gweithgareddau lleol, ac i chwilio am ysbrydoliaeth. Cofiwch roi gwybod inni am yr hyn sy’n digwydd yn eich hardal chi sydd unai’n gwarchod neu’n atal hawl plant a phobl ifainc i chwarae. Mae croeso i chi leisio eich barn drwy gyfrwng y Gymraeg neu'r Saesneg.
Tudalen Facebook Cymru - Gwlad Chwarae-Gyfeillgar
Cefndir
Chwarae Cymru gyflwynodd y cais am Wobr Hawl i Chwarae - 'Cymru - Gwlad Chwarae-Gyfeillgar' ar ran pawb sy'n gweithio i wneud Cymru yn wlad chwarae-gyfeillgar.
Derbyniodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones AC, y Wobr Hawl i Chwarae yr International Play Association (IPA) pan agorodd 18ed cynhadledd yr IPA yng Nghaerdydd ar 4 Gorffennaf 2011. Cymru yw’r wlad gyntaf erioed i dderbyn y Wobr Hawl i Chwarae.
Rhagor o wybodaeth am y Wobr Hawl i Chwarae
Esiamplau
Ym mhob rhifyn o’n cylchgrawn Chwarae dros Gymru rydym yn cynnwys enghraifft sy’n digwydd i unai warchod neu i wahardd hawl plant i chwarae.
Cynllun Chwarae Haf Y Fro a Siop Chwarae 'Pop-Up' (Haf 2012 - rhifyn 37)
Ysgol Gynradd Gymunedol Maerdy (Gaeaf 2012 - rhifyn 38)
Scrapstore PlayPod® (Gwanwyn 2013 - rhifyn 39)
Rhaglen Cyfran Deg Ynys Môn (Haf 2013 - rhifyn 40)
Cylch chwarae Shirenewton yng Nghaerdydd (Gaeaf 2013 - rhifyn 41)
Chwarae ar y stryd yn Y Fenni (Gwanwyn 2014 - rhifyn 42)
Gwasanaethau Chwarae ac Egwyl Fer Torfaen (Haf 2014 - rhifyn 43)
Ardal Chwarae Nyth yr Hebog (Gwanwyn 2015 - rhifyn 44)
PlayPod ysgol Palmerston (Hydref 2015 - rhifyn 45)
Grŵp cymunedol awyr agored Wild Tots (Gwanwyn 2016 - rhifyn 46)
Man chwarae cymunedol Melin Wyllt, Pen-y-bont ar Ogwr (Hydref 2016 - rhifyn 47)
Gofod chwarae a dysgu awyr agored, Prifysgol Metropolitan Caerdydd (Gwanwyn 2017 - rhifyn 48)
Dosbarthu bwyd yn ystod gwyliau'r haf (Hydref 2017 - rhifyn 49)
Ardal chwarae Yr Iard yn Sain Ffagan, Amgueddfa Werin Cymru (Gwanwyn 2018 - rhifyn 50)
Ysgol ar agor ar gyfer amser chwarae bob Dydd Sadwrn (Hydref 2018 - rhifyn 51)
Chwarae amser cinio yn Ysgol Tŷ Ffynnon (Gwanwyn 2019 - rhifyn 52)
Parc Dros Dro Caerdydd Plentyn-Gyfeillgar (Haf 2019 - rhifyn 53)
Arddangosfa Gwaith-Chwarae Tŷ Pawb (Gaeaf 2019 - rhifyn 54)
Sesiynau chwarae allgymorth yng Nghonwy (Gwanwyn 2020 - rhifyn 55)
Gwneud sŵn mawr dros chwarae – Diwrnod Chwarae 2020 (Hydref 2020 - rhifyn 56)