Mae Chwarae Cymru wedi datblygu Gweithlu chwarae-gyfeillgar i Gymru i rannu ei flaenoriaethau ar gyfer cynyddu sgiliau’r gweithlu yn ymwneud â chwarae plant, ar gyfer y rheini sy’n gweithio wyneb-yn-wyneb â phlant a’r rheini y mae eu gwaith yn effeithio ar ble mae plant yn chwarae.
Er mwyn gweithredu y cynllun datblygu’r gweithlu hwn byddwn yn gweithio gyda amrywiaeth o bartneriaid, gan gynnwys lleoliadau gwaith chwarae, awdurdodau lleol, Llywodraeth Cymru, ac mudiadau gofal plant a gwaith chwarae.
Mae’r cynllun yn cynnwys:
- Diffiniadau clir a chryno o’r gweithlu gwaith chwarae a’r gweithlu chwarae
- Heriau i fynd i’r afael â hwy ar gyfer y gweithlu gwaith chwarae a’r gweithlu chwarae
- Blaenoriathau strategol ac gweithrediadol Chwarae Cymru ar gyfer y gweithlu gwaith chwarae a’r gweithlu chwarae.
Mae’r blaenoriaethau wedi eu pennu trwy ymgynghori â’r sector ac mewn ymateb i flaenoriaethau a ddynodwyd trwy:
- Adolygiad Chwarae Cymru o’r 22 Asesiad Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae gan awdurdodau lleol 2016 a 2019
- Rhwydwaith Chwarae Strategol Cymru
- Cyngor Addysg a Hyfforddiant Gwaith Chwarae Cymru (PETC Cymru)
- Trafodaethau unigol gyda rhanddeiliaid
- Adolygiad Cymwysterau Cymru o Gymwysterau Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Gofal Plant a Gwaith Chwarae yng Nghymru.
Nid oes dyddiad terfyn ar gyfer y cynllun hwn, ond caiff ei adolygu’n flynyddol fel rhan o’r cynllun gweithredu blynyddol ac fe’i diweddarwyd ar gyfer 2020 i adlewyrchu’r Adolygiad o Asesiadau o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae yn 2019. Bydd Chwarae Cymru’n datblygu cynllun gweithredu blynyddol yn seiliedig ar y meysydd blaenoriaeth a geir yn y cynllun hwn.
Tair blynedd yn ddiweddarach – cyflawniadau
Mae’r cyflawniadau allweddol ers lansio Gweithlu chwarae-gyfeillgar i Gymru yn 2017 yn cynnwys:
- Gweithio gydag Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales i ddatblygu a throsglwyddo llwybr cynnydd cymwysterau cydlynol ar gyfer gweithwyr chwarae yng Nghymru
- Datblygu’r Dyfarniad Lefel 3 mewn Trosglwyddo Hyfforddiant Gwaith Chwarae Dynamig (ADDaPT) i gynyddu sgiliau tiwtoriaid
- Ymgysylltu â Chymwysterau Cymru, Gofal Cymdeithasol Cymru a Llywodraeth Cymru ar ddatblygu cymwysterau newydd Gofal, Chwarae, Dysg a Datblygiad Plant
- Trosglwyddo gweithdai i amrywiaeth o randdeiliaid yn y gweithlu chwarae, gan gynnwys gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, a thimau gofal plant awdurdodau lleol
- Gweithio gyda Phrifysgol Swydd Gaerloyw i drosglwyddo Rhaglen Datblygiad Proffesiynol ar gyfer Arweinwyr Digonolrwydd Chwarae mewn tair awdurdod lleol
- Trosglwyddo nifer o gynadleddau a digwyddiadau ar gyfer y gweithlu chwarae a gwaith chwarae
- Ymgysylltu parhaus gyda’r sector ar ddyfodol hyfforddiant a chymwysterau
- Cefnogi datblygiad o ran sgiliau’r sector gwaith chwarae, gan gynnwys cymwysterau gofynnol i weithio yn y sector.