Mae Chwarae Cymru’n hybu pwysigrwydd chwarae plant yng Nghymru trwy ddarparu gwybodaeth amserol a chyfredol.
Mae hyn yn cynnwys:
- Gwefan llawn gwybodaeth sy’n cael ei diweddaru’n rheolaidd
- Amrywiaeth o gyhoeddiadau’n cynnwys pecynnau cymorth, canllawiau arfer dda a thaflenni gwybodaeth
- Cylchgrawn a gyhoeddir ddwywaith y flwyddyn - Chwarae dros Gymru
- E-fwletinau misol a bwletinau newyddion rheolaidd
- Defnydd dyddiol o’r cyfryngau cymdeithasol trwy Twitter a Facebook
- Llyfrgell chwarae – casgliad cynhwysfawr o adnoddau cyfoes a rhai sydd allan o brint.