Cenedlaethol
Ar lefel genedlaethol, mae Chwarae Cymru wedi cydweithio â Llywodraeth Cymru ar ddatblygu Polisi a Strategaeth Chwarae a deddfwriaeth, rheoliadau a chanllawiau.
Bydd chwarae'n digwydd yn unrhyw le ble y bydd plant a phobl ifanc yn treulio amser ac mae'n amlygu ei hun yn y mwyafrif o agweddau o'u bywydau. Felly, fel eiriolwr dros chwarae, mae'n bwysig bod Chwarae Cymru'n cyfrannu at ystod eang o ddadleuon a phenderfyniadau polisi - iechyd a lles, addysg, datblygu'r gweithlu, teithio a thrafnidiaeth, cynllunio a llawer mwy.
Rydym yn cyfrannu i amrywiol bwyllgorau gwaith yng Nghymru er mwyn cynyddu ymwybyddiaeth o fuddiannau chwarae ac er mwyn sicrhau na chaiff chwarae plant ei esgeuluso gan y broses o wneud penderfyniadau a llunio polisïau:
- Grŵp Cynghori Gweinidogion ar Weithgarwch Corfforol
- Grŵp Cenedlaethol Sefydliadau Chwarae a Gofal Plant
- Fforwm Polisi Plant yng Nghymru
- Grŵp Cynghori Gweinidogion ar Weithgarwch Corfforol
- Pwyllgor Gwaith SkillsActive, Cymru
Er mwyn cynorthwyo gyda datblygiad a gwarchod darpariaeth chwarae plant yn lleol, rydym wedi gweithio i ddatblygu a chynnal rhwydweithiau proffesiynol sy’n cwmpasu pob Awdurdod Lleol yng Nghymru, gan gynnwys Rhwydwaith Chwarae Strategol Cymru. Mae’r rhwydwaith cenedlaethol hwn o swyddogion datblygu chwarae yn dwyn ynghyd gydweithwyr o Awdurdodau Lleol yn ogystal â’r sectorau gwirfoddol.
Yn y DU
Mae Chwarae Cymru hefyd yn cyfrannu tuag at waith polisi'r DU - mewn cydweithrediad ag ystod o fudiadau cenedlaethol eraill trwy'r DU sydd â diddordeb mewn chwarae plant a phobl ifanc neu ddatblygiad y gweithlu gwaith chwarae.
Rhagor o wybodaeth am y Fforwm Polisi Chwarae Plant
Rhagor o wybodaeth am y Play Safety Forum
Rhyngwladol
Mae Chwarae Cymru'n aelod gweithredol o'r International Play Association - sy'n hyrwyddo hawl y plentyn i chwarae. Mae'r IPA yn gorff anllywodraethol rhyngwladol a sefydlwyd ym 1961 i amddiffyn, gwarchod a hyrwyddo hawl y plentyn i chwarae fel hawl dynol sylfaenol.