Bydd y Grŵp yn darparu llwyfan cydweithrediadol ar gyfer datblygu prosiectau a cheisiadau ymchwil fydd yn archwilio dehongliad, gweithrediad ac effaith y dyletswydd i asesu a sicrhau cyfleoedd chwarae digonol ar gyfer plant fel rhan o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010, Adran 11.
Mae gan aelodau’r Grŵp ddiddordebau a gwybodaeth arbenigol ar draws ystod eang o ddisgyblaethau (yn cynnwys iechyd, chwarae plant, daearyddiaethau plant, astudiaethau trefol, y gyfraith a hawliau plant) a gwahanol fethodolegau (yn amrywio o ddadansoddi meintiol setiau data ar raddfa fawr o ymyriadau iechyd cymhleth i ymholiadau beirniadol ansoddol).
Mae natur arloesol y ddeddfwriaeth, y diddordeb rhyngwladol yn Erthygl 31 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP) ac agwedd Cymru yn cynnig dadl gref dros ymchwilio i hyn; gyda buddiannau ar gyfer y gymuned academaidd a’r gymuned polisi genedlaethol a rhyngwladol fel ei gilydd.
Mae’r Grŵp yn anelu i archwilio’r themâu allweddol canlynol a ddynodwyd: effaith, newid, prosesau, cysyniadau / damcaniaethau sylfaenol a gwersi a ddysgwyd.
Mae aelodaeth y grŵp ymchwil yn cynnwys:
- Dr Owain Jones (Prifysgol Swydd Gaerloyw – Athrofa Ymchwil Cymunedau a Chefn Gwlad)
- Dr Simon Hoffman (Ysgol y Gyfraith Prifysgol Abertawe / Arsyllfa Cymru ar Hawliau Dynol Plant a Phobl Ifanc)
- Mike Biddulph (Prifysgol Caerdydd – Ysgol Cynllunio a Daearyddiaeth)
- Chwarae Cymru
- Yr Athro Marcus Longley (Prifysgol De Cymru – Athrofa Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymru)
- Yr Athro Ronan Lyons (Prifysgol Abertawe – Coleg Meddygaeth)
- Stuart Lester (Prifysgol Swydd Gaerloyw – Chwarae a Gwaith Chwarae)
- Wendy Russell (Prifysgol Swydd Gaerloyw – Chwarae a Gwaith Chwarae)
Mae Chwarae Cymru wedi derbyn cyllid gan Rwydwaith Ymchwil Plant a Phobl Ifanc Cymru (CYPRN) i gynorthwyo gyda hwyluso gwaith Grŵp Datblygu Ymchwil Digonolrwydd Chwarae.