O fis Ebrill 2016, newidiodd Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) y ffordd maent yn arolygu gwasanaethau gwarchod plant, gofal dydd a chwarae mynediad agored, a pha mor aml maent yn cynnal arolygiadau.
Mae'r fframwaith newydd yn cynnwys arolygiadau gofal plant a chwarae ac yn rhoi mwy o bwyslais ar wella datblygiad plant a chanlyniadau lles.
Pan fydd arolygwyr yn ymweld â gwasanaeth gofal, byddant yn ystyried pedair thema graidd:
- Lles
- Gofal a Datblygiad
- Amgylchedd
- Arweinyddiaeth a Rheolaeth
Beth sy'n wahanol?
- Bydd arolygwyr yn treulio rhagor o amser gyda gwasanaeth gofal
- Newidiadau i amlder ein harolygiadau
- Cyflwyno graddau
- Cyhoeddi adroddiadau arolygu gwarchodwyr plant
Mae'r fframwaith arolygu ar gael ar wefan AGC.
Rhagor o wybodaeth am y Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010