Mae’r Children’s Play Policy Forum (CPPF) yn gweithio i eiriol dros, i hyrwyddo a chynyddu dealltwriaeth o bwysigrwydd chwarae plant a darpariaeth chwarae cynhwysol o safon trwy weithio gyda llywodraethau datganoledig, yn genedlaethol a lleol; a’r sectorau gwirfoddol, cyhoeddus a phreifat trwy’r Deyrnas Unedig.
Mae’r Children’s Play Policy Forum yn gorff awdurdodol sy’n gweithredu ar sail cytundeb barn ond nid yw’n grŵp llunio penderfyniadau gweithredol. Ni atelir aelodau-fudiadau rhag mabwysiadu eu safbwynt eu hunain ar faterion y tu allan i’r fforwm.
Mae’r Children's Play Policy Forum:
- Yn cynnig llwyfan ar gyfer trafod a rhwydweithio i bobl sy’n gysylltiedig â chwarae fel y gallant gyfrannu at ddatblygiad a ffurfio ymatebion polisi cydlynol ar gyfer llywodraethau a chyrff eraill, yn enwedig ble fo polisi cenedlaethol y DU yn effeithio ar y bedair gwlad.
- Yn cefnogi aelodau i weithio gyda ac i lobïo llywodraethau’r bedair gwlad er mwyn sicrhau gweithrediad llawn Erthygl 31 ac erthyglau perthynol Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn.
- Yn cynrychioli’r safbwyntiau amrywiol sy’n bodoli yn y sector chwarae a gwaith chwarae, gan gynnwys y gweithlu chwarae; yn dynodi cydsyniad barn; ac yn lobïo ar ran y sector chwarae a thrwy hynny’n atgyfnerthu ymrwymiad i chwarae.
Cyfranogi ac Aelodaeth o’r Fforwm
Caiff y Children’s Play Policy Forum ei hysbysu gan, a bydd yn dwyn ynghyd, randdeiliaid allweddol sy’n cynnwys:
- Cyrff blaenllaw sy’n gyfrifol am chwarae, gwaith chwarae a datblygu’r gweithlu ar draws ac o fewn Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a’r Alban
- Cyrff sy’n cynrychioli’r diwydiant sydd â diddordeb mewn cyfleoedd chwarae a darpariaeth chwarae
- Cynrychiolwyr Llywodraeth leol, datganoledig a chenedlaethol a swyddogion sy’n cefnogi chwarae neu allai ddylanwadu’n gadarnhaol ar ddatblygiad chwarae
- Arianwyr sy’n cyllido mentrau sylweddol perthnasol
- Gellir gwahodd academyddion, arbenigwyr ac eraill sy’n dylanwadu a llunio dealltwriaeth a gwybodaeth am chwarae i ymuno â chyfarfodydd penodol a / neu i fynychu cyfarfodydd
Cadeirydd ac Is-gadeiryddion
Ar hyn o bryd mae gan y fforwm gadeirydd a thri is-gadeirydd. Mae’r rhain fel a ganlyn:
- Cadeirydd – i’w benodi gan y Fforwm
- Is-gadeiryddion
Play Scotland
Chwarae Cymru
PlayBoard Northern Ireland
Play England
Adolygir penodiad Cadeirydd ac Is-gadeiryddion Children's Play Policy Forum bob tair blynedd.
Caiff enwebiadau ar gyfer y Gadair, yn y man cyntaf, eu cyflwyno gan yr Is-gadeiryddion. Caiff y rhain eu hystyried gan yr aelodau’n gyffredinol, eu trafod a’u cytuno.
Aelodaeth
Gall aelodau Children's Play Policy Forum enwebu mudiadau newydd i ymuno â Children's Play Policy Forum, unai fel aelodau llawn neu fel sylwedyddion. Caiff enwebiadau aelodau newydd eu trafod a’u cytuno’n ystod cyfarfodydd Children's Play Policy Forum.
Aelodau Children's Play Policy Forum:
- Jacqueline O’Loughlin, PlayBoard Northern Ireland
- Mike Greenaway, Chwarae Cymru
- Marguerite Hunter Blair, Play Scotland
- Robin Sutcliffe (Cadeirydd)
- Helen Griffiths / Richard McKeever, Fields in Trust
- Mark Hardy, Association of Play Industries
- Nicola Butler, Play England
- Carly Sefton, Learning Through Landscapes
- Tim Gill, Rethinking Childhood
- Roger Worthington, Forestry Commission England
Gwefan y Children's Play Policy Forum
Cyhoeddiadau
Corff plant cenedlaethol yn galw at bob plaid wleidyddol i fuddsoddi mewn cefnogaeth gost-effeithiol i chwarae plant
Mae Fforwm Polisi Chwarae Plant y Deyrnas Unedig yn galw ar holl bleidiau gwleidyddol y DU i fuddsoddi mewn chwarae plant oherwydd y manteision profedig a ddaw yn sgîl hynny i blant, teuluoedd a chymunedau.
Mae ‘pedwar cais dros chwarae’ yn galw ar Lywodraeth y DU i wneud y canlynol:
- Cydnabod yr angen am chwarae cyn yr ysgol, yn ystod amserau chwarae/egwyliau ac ar ôl oriau ysgol
- Estyn y rhaglen sydd eisoes yn bodoli yn Lloegr dan nawdd yr Adran Iechyd, sy’n cefnogi sesiynau rheolaidd o gau ffyrdd mewn strydoedd preswyl, i bob dinas bwysig yn y Deyrnas Unedig
- Buddsoddi mewn rhaglen sy’n canolbwyntio ar gymunedau difreintiedig er mwyn annog chwarae priodol mewn mannau cyhoeddus, gan leihau gwrthdaro yn y gymdogaeth a’r pwysau ar amser yr heddlu o ganlyniad
- Darparu cefnogaeth i ddarpariaeth chwarae wedi’i staffio, er mwyn profi mentrau iechyd a lles arloesol yn y gymuned.
Bydd buddsoddi yn y ‘Pedwar cais dros chwarae’ yn arwain at welliannau i iechyd a lles plant, yn ôl y Children’s Play Policy Forum, ac yn sgîl hynny at leihau’r pwysau ar y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a’r pwrs cyhoeddus.
Dengys astudiaethau fod manteision iechyd hir dymor chwarae yn cynnwys rhoi hwb i lefelau gweithgaredd corfforol sy’n helpu i fynd i’r afael â gordewdra plant, a chefnogi plant i fod yn fwy gwydn. Mae mentrau chwarae hefyd o fudd i’r gymuned ehangach trwy annog agwedd gymdogol a gwell cydlyniant cymunedol.
Meddai Robin Sutcliffe, Cadeirydd y Children’s Play Policy Forum:
‘Rydym ni’n gwybod bod manteision uniongyrchol a thymor hir i blant, pobl ifanc a’r gymuned ehangach yn deillio o chwarae. Mae cyfrifoldeb ar bob un ohonom i sicrhau bod plant yn cael cyfleoedd i chwarae yn eu cymunedau. Rydym ni’n galw ar bob plaid wleidyddol i ddarparu ar gyfer mentrau chwarae ar draws y DU – lefel gymedrol o fuddsoddi fyddai’n angenrheidiol, ond byddai’n eithriadol o gost-effeithiol.’
Lawrlwytho ‘Pedwar cais dros chwarae’
Adroddiad newydd yn pwysleisio buddiannau ehangach chwarae
I gyd-fynd â Diwrnod Chwarae 2014 mae gwaith ymchwil newydd yn amlygu, am y tro cyntaf, y gwahaniaeth mesuradwy y mae chwarae’n ei wneud, nid yn unig i blant ond i deuluoedd a chymunedau hefyd.
Mae’r adroddiad, The Play Return: A review of the wider impact of play initiatives, a gomisiynwyd gan Children’s Play Policy Forum y DU, yn dyst i bwysigrwydd chwarae ar gyfer iechyd, lles, a datblygiad addysgol a chymdeithasol plant; a phwysigrwydd chwarae wrth gefnogi plant i ddatblygu sgiliau a gwybodaeth allweddol wrth iddynt aeddfedu.
Meddai Tim Gill, awdur yr adroddiad:
‘Wrth galon yr adroddiad mae’r neges bod chwarae’r tu allan, nid yn unig yn effeithio’n sylweddol ar fywydau plant a phobl ifainc, ond ei fod hefyd, mewn nifer o achosion, yn gallu darparu sail ar gyfer trawsnewidiad cymunedau ehangach’.
Ychwanegodd Tim:
‘O safbwynt gwleidyddion a llunwyr polisïau, mae’r adroddiad yn pwysleisio y gall, a bod, buddsoddi mewn chwarae yn arwain at fuddiannau niferus yn cynnwys gwell cyraeddiadau addysgol, cymdeithas sy’n fwy iach a lefelau gwell o oddefgarwch ymysg a rhwng cymunedau’.
Wrth groesawu’r adroddiad, dywedodd Cadeirydd y Children’s Play Policy Forum:
‘Mae’r adroddiad hwn yn cynnig dealltwriaeth gwerthfawr am bwysigrwydd sylfaenol chwarae i fywyd plant, nid yn unig yn nhermau lles a datblygiad ond hefyd eu mwynhad o blentyndod’.
Ychwanegodd Robin:
‘Ar lefel polisi llywodraeth credwn bod yr adroddiad hwn yn cynnig tystiolaeth cymhellol am y dylanwad all chwarae ei gael dros amrediad o feysydd polisi gan gynnwys iechyd ag addysg’.
Lawrlwytho The Play Return: A review of the wider impact of play initiatives