Mae Design for Play (canllawiau a grewyd gan Play England, 2008) yn cynnig dechrau da gyda materion sy'n ymwneud â chynllunio a dylunio. Mae'r canllawiau'n nodi deg egwyddor ar gyfer dylunio mannau chwarae llwyddiannus:
- Maent yn unigryw
- Maent mewn lleoliad da
- Maent yn defnyddio elfennau naturiol
- Maent yn darparu ystod eang o brofiadau chwarae
- Maent yn hygyrch i blant anabl a phlant sydd ddim yn anabl
- Maent yn ateb anghenion y gymuned
- Maent yn caniatáu i blant o wahanol oedrannau chwarae gyda'i gilydd
- Maent yn cynnwys cyfleoedd ar gyfer risg a her
- Maent yn gynaliadwy ac yn cael eu cynnal a'u cadw'n gywir
- Maent yn caniatáu ar gyfer newid ac esblygiad
Bydd glynu at yr egwyddorion hyn yn helpu i sicrhau bod y gofod yn darparu amgylchedd chwarae cyfoethog ar gyfer plant a phobl ifanc.
Er mwyn gwneud y gorau o fan chwarae, bydd angen i blant allu ei addasu a'i fowldio i gyflawni eu anghenion chwarae a bydd angen iddo newid dros amser a darparu cyfleoedd newydd ar gyfer chwarae. Bydd ychwanegu arwynebau rhydd megis tywod neu risgl, cynnwys dŵr a choed a llwyni yn darparu cyflenwad o rannau rhydd sy'n newid gyda'r tymhorau, y gall plant eu defnyddio mewn amrywiol ffyrdd dyfeisgar.
Adnoddau
Lawrlwytho Creu mannau da i chwarae - erthygl gan Sue Gutteridge.