Isod ceir dolenni i fudiadau chwarae cenedlaethol, cymdeithasau chwarae yng Nghymru a mudiadau cenedlaethol sy’n berthnasol i chwarae.
Mudiadau Chwarae Cenedlaethol
Chwarae Cymru – Elusen annibynnol a mudiad chwarae cenedlaethol sy’n hyrwyddo a chefnogi hawl pob plentyn yng Nghymru i chwarae
Play England – Maent yn gweithio i sicrhau bod plant a phobl ifainc yn Lloegr yn cael mynediad rheolaidd i fannau chwarae a darpariaeth chwarae cynhwysol, rhad ac am ddim yn lleol
PlayBoard Northern Ireland – Y brif asiantaeth ar gyfer datblygu a hyrwyddo chwarae plant a phobl ifainc yng Ngogledd Iwerddon
Play Scotland – Maent yn gweithio i hyrwyddo pwysigrwydd chwarae ar gyfer pob plentyn a pherson ifanc ac yn ymgyrchu i greu mwy o gyfleoedd chwarae yn y gymuned
Cymdeithasau Chwarae – Cymru
Caerdydd a Bro Morgannwg – Re-create
Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro – Prosiect Chwarae Purple Routes
Ceredigion – Prosiect Chwarae Plant RAY Ceredigion
Mudiadau Cenedlaethol
Child Rights Information Network – Yn ymgyrchu dros hawliau plant
Children's Links - Ymroddedig i wella profiadau bywyd plant, pobl ifanc a'u teuluoedd
Comisiynydd Plant Cymru – Yn eiriol dros hawliau ac amddiffyn plant yng Nghymru
Children’s Commissioner for England – Yn hyrwyddo barn a buddiannau plant a phobl ifainc yn Lloegr
Children in England – Yn anelu i greu byd tecach ar gyfer plant, pobl ifainc a theuluoedd trwy hyrwyddo’r mudiadau gwirfoddol sy’n gweithio ar eu rhan yn Lloegr
Children in Northern Ireland – Y sefydliad ymbarél rhanbarthol ar gyfer y sector plant yng Ngogledd Iwerddon
Children in Scotland – Yr asiantaeth genedlaethol ar gyfer mudiadau gwirfoddol, statudol a phroffesiynol ac unigolion sy’n gweithio gyda plant a’u teuluoedd yn yr Alban
Clybiau Plant Cymru Kids' Clubs – Yn hyrwyddo, datblygu a chefnogi clybiau gofal plant y tu allan i’r ysgol sy’n hygyrch, fforddiadwy a safonol ar draws Cymru
Fields in Trust (FIT) - Anelu i sicrhau fod gan bawb fynediad at gyfleusterau rhad ac am ddim, lleol ar gyfer chwaraeon, chwarae a hamdden
Free Play Network – Rhwydwaith o unigolion a mudiadau sydd wedi ymrwymo i hyrwyddo cyfleoedd chwarae rhad ac am ddim ar gyfer plant
International Council for Children’s Play – Nod yr ICCP yw hyrwyddo gwaith ymchwil ar chwarae a theganau plant
International Play Association (IPA) – Mudiad rhyngwladol anllywodraethol. Pwrpas IPA yw amddiffyn, gwarchod a hyrwyddo hawl y plentyn i chwarae fel hawl dynol sylfaenol
IPA Scotland – Cangen Yr Alban o’r International Play Association (IPA)
Kids – Mudiad cenedlaethol sy’n cefnogi a hyrwyddo hawliau plant anabl
Learning through Landscapes (LTL) – Yn anelu i alluogi plant i gysylltu â natur, bod yn fwy bywiog, creu gwell cysylltiad â’u dysg, datblygu eu sgiliau cymdeithasol a chael hwyl
Mudiad Ysgolion Meithrin – Yn anelu i roi cyfle i bob plentyn ifanc yng Nghymru i elwa o wasanaethau a phrofiadau blynyddoedd cynnar trwy gyfrwng y Gymraeg
National Children’s Bureau (NCB) – Elusen genedlaethol sy’n cefnogi plant, pobl ifainc, teuluoedd a’r bobl hynny sy’n gweithio â nhw
Northern Ireland Commissioner for Children and Young People – Yn diogelu a hyrwyddo hawliau a buddiannau plant a phobl ifainc
Plant yng Nghymru – Y sefydliad ymbarél cenedlaethol ar gyfer pobl sy’n gweithio â phlant a phobl ifainc yng Nghymru
Scotland's Commissioner for Children and Young People – Yn anelu i sicrhau bod hawliau pob plentyn a pherson ifanc yn Yr Alban yn cael eu parchu
SkillsActive – Y cyngor sgiliau sector dros waith chwarae yn y DU
Cymdeithas Darparwyr Cyn-ysgol Cymru – yn darparu addysg a gofal dan oedran ysgol yng Nghymru