Bydd ymateb Partneriaeth Fframwaith effeithlon i'r cyd-destun strategaeth a pholisi chwarae cenedlaethol yn gofyn am gysylltiadau cryfion rhwng y bobl hynny sy'n gyfrifol am gyfeiriad strategol Gwasanaethau Plant a Phobl Ifainc a'r rheini sydd ynghlwm â datblygiad a gweithrediad strategaethau chwarae.
Mae Chwarae Cymrun cefnogi datblygiad Grwpiau Strategaeth Chwarae i hysbysu cyfeiriad strategol cynllunio a darparu chwarae.
Dyma rai o'r nodweddion sy'n hanfodol ar gyfer cylch gorchwyl grŵp or fath:
- Rolau a swyddogaethau cwbl eglur ar gyfer y grŵp a'i aelodau, yn enwedig o ran rhannu gwybodaeth.
- Y cyfrifoldeb i weithredu mewn swyddogaeth ymgynghorol ar gyfer y Partneriaeth Fframwaith Plant a Phobl Ifainc ble fo chwarae'n berthnasol i agendâu eraill ac i ddatblygu rôl cydlynol gan sicrhau bod cynlluniau, mentrau a strategaethau'n cyfannu ei gilydd o ran chwarae.
- Darparu adroddiadau rheolaidd i'r Bartneriaeth Fframwaith Plant a Phobl Ifainc, ac ymwybyddiaeth ynghylch elfennau sy'n gorgyffwrdd â strategaethau eraill.
- Sefydlu a chynnal sianelau cyfathrebu digonol ar gyfer rhaeadru a chyfnewid gwybodaeth sy'n ymwneud â chwarae.