Er mwyn ateb anghenion chwarae pob plentyn yng Nghymru a phawb sy’n gweithio ble bydd plant yn chwarae, mae Chwarae Cymru wedi datblygu casgliad o gymwysterau sy’n ymateb i natur newidiol y sector.
Mae Gwaith Chwarae: Rhoi Egwyddorion ar Waith (P3) yn gyfres gynhwysfawr o gymwysterau gwaith chwarae ar Lefel 2 a 3 sydd wedi eu hanelu at weithwyr chwarae amser llawn.
Mae’r Dyfarniad Lefel 2 mewn Arfer Gwaith Chwarae (L2APP) yn gyflwyniad perffaith i’r rheini sy’n newydd i waith chwarae neu’r rheini sy’n gweithio mewn cynlluniau chwarae tymor byr, dros y gwyliau (trosglwyddir dros dridiau).
Anelir Dyfarniad Lefel 3 mewn Rheoli Cynllun Chwarae’n Ystod Gwyliau’r Ysgol (MAHPS) at y rheini sy’n meddu eisoes ar gymwysterau Lefel 3 mewn gwaith arall gyda phlant a phobl ifanc ond sydd angen cymhwyster chwarae plant er mwyn gallu bod yn berson sy’n gyfrifol am gynllun chwarae’n ystod y gwyliau (trosglwyddir dros bedwar diwrnod).
Anelir y Wobr mewn Trosglwyddo Hyfforddiant Gwaith Chwarae Dynamig (ADDaPT) at diwtoriaid gweithwyr chwarae galwedigaethol gymwys sy’n meddu ar gymhwyster hyfforddi eisoes. Bwriedir iddo gefnogi’r lefel uchel o drosglwyddo hyfforddiant yr ydym yn ei ddisgwyl o diwtoriaid gwaith chwarae yng Nghymru (trosglwyddir dros dridiau).
Mae Chwarae Cymru’n gweithio mewn partneriaeth gydag Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales ac Agored Cymru i ddatblygu a throsglwyddo cymwysterau gwaith chwarae ar draws Cymru.
Gweithio mewn partneriaeth
Mae Chwarae Cymru’n gweithio mewn partneriaeth agos gydag Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales ar ddatblygu a throsglwyddo ein cymwysterau gwaith chwarae. Fel coleg cymunedol Cymru gyfan, maen nhw mewn sefyllfa dda i drosglwyddo cymwysterau gwaith chwarae oherwydd eu profiad wrth drosglwyddo cymwysterau gwaith ieuenctid a datblygiad cymunedol mewn lleoliadau cymunedol.
Yn ogystal, mae Chwarae Cymru yn gweithio gyda thîm staff Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales i greu rhwydwaith o aseswyr a hyfforddwyr gwaith chwarae galwedigaethol gymwys.
Ffurflen gais
Os oes gennych ddiddordeb astudio ar gyfer y cymhwyster L2APP neu MAHPS, cwblhewch y ffurflen gais a’i dychwelyd at Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales.