-
Gweld ar-lein Lawrlwytho Gweithdy hawl i chwarae
Mae'r Gweithdy hawl i chwarae yn anelu i gynyddu ymwybyddiaeth am yr hawl i chwarae, yn ogystal â galluogi plant a phlant yn eu harddegau i eiriol dros gyfleoedd gwell i chwarae a chwrdd â’u ffrindiau.
Mae’r gweithdy wedi ei ddylunio ar gyfer gweithwyr chwarae, gweithwyr cyfranogaeth, gweithwyr ieuenctid a staff ysgolion i’w hwyluso mewn ysgolion a lleoliadau strwythuredig eraill. Mae’r gweithdy a’r adnoddau wedi eu dylunio i’w defnyddio gan unrhyw un sydd â dealltwriaeth ymarferol o sut i gefnogi a hwyluso chwarae plant gan ddefnyddio agwedd gwaith chwarae. Gallent fod yn weithwyr chwarae, gweithwyr datblygu chwarae neu’n aelod o staff dysgu.
Gellir trosglwyddo’r gweithdy ar ei ben ei hun ond mae hefyd yn fodd defnyddiol ar gyfer cychwyn perthynas gydag ysgol. Mae’r gweithdy yn cynnwys amrywiaeth o adnoddau y gellir eu defnyddio yn ystod ac ar ôl y sesiwn – o gynllun sesiwn gweithdy, i boster i blant rannu’r wybodaeth y maent wedi ei dysgu, i ddeilliannau dysgwyr ar gyfer eu defnyddio mewn ysgol.