-
Gweld ar-lein Lawrlwytho Datblygu a rheoli mannau chwarae - pecyn cymorth cymunedol
Mae’r pecyn cymorth cymunedol Datblygu a Rheoli Mannau Chwarae wedi ei ddylunio ar gyfer unrhyw un sy’n gyfrifol am reoli neu ddatblygu man chwarae mewn cymuned. Gallai fod yn gyngor cymuned, yn gymdeithas chwarae leol neu’n gr?p o drigolion.
Bwriedir i’r pecyn cymorth fod yn ffynhonnell cefnogaeth a chyfeirio unigol ar gyfer grwpiau cymunedol, fel y gallant lywio eu ffordd trwy’r heriau o reoli neu ddatblygu man chwarae.
Beth mae’r pecyn yma wedi ei ddylunio i’w wneud?- Arweiniad – sef darn penodol o wybodaeth y bwriedir iddo eich helpu i ddeall maes penodol o reoli neu ddatblygu mannau chwarae.
- Cymorth – sef canllawiau cam-wrth-gam, ymarferol neu dempledi ar gyfer cyflawni darn o waith sy’n gysylltiedig â rheoli a datblygu mannau chwarae.
Gellir defnyddio’r pecyn cymorth cyflawn hwn ar gyfer datblygu a rheoli man chwarae neu gellir defnyddio adrannau’n annibynnol er mwyn canolbwyntio ar agweddau o’r gwaith. Mae wedi ei strwythuro fel bod y wybodaeth mewn trefn resymegol ar gyfer camau’r broses ddylunio a rheoli. Er enghraifft, bydd cyfranogaeth ac ymgysylltu’n ymddangos cyn dylunio, ddaw yn ei dro cyn caffael.
Sut ddylwn i ei ddefnyddio?
Mae’r pecyn cymorth yma’n cynnwys dwy adran:- Dylunio sy’n canolbwyntio ar ddylunio mannau chwarae newydd ac sy’n cynnwys pynciau fel cyfranogaeth, caffael, dylunio, iechyd a diogelwch.
- Rheoli sy’n canolbwyntio ar dechnegau rheoli mannau chwarae sy’n bodoli eisoes, neu sydd newydd eu creu, ac sy’n cynnwys pynciau fel cynnal a chadw ac archwilio, rheoli risg ac yswiriant.
Pam ddatblygwyd y pecyn hwn?
Dechreuodd Rhaglen Cyfran Deg Y Gronfa Loteri Fawr ar Ynys Môn yn 2002, gyda’r bwriad o wella cyfleoedd ar gyfer chwarae plant. Datblygodd Chwarae Cymru, mewn cydweithrediad â’r Sefydliad Cymunedol yng Nghymru a Phanel Cyfran Deg ar Ynys Môn, brosiect i wella mannau chwarae.
Bwriedir i Datblygu a Rheoli Mannau Chwarae fod yn ffynhonnell cefnogaeth a chyfeirio unigol ar gyfer grwpiau cymunedol, fel y gallant lywio eu ffordd trwy’r heriau o reoli neu ddatblygu man chwarae.Templedi
I gefnogi’r gwaith o ddatblygu a rheoli mannau chwarae mae’r templedi a soniwyd amdanynt yn y pecyn cymorth cymunedol ar gael i’w lawrlwytho isod ar ffurf Microsoft Word.
Asesiad mynediad i fannau chwarae
Asesu risg-budd
Esiampl memorandwm cyd-ddealltwriaeth
Esiampl polisi rheoli risg
Esiampl tendr datblygu - mynegi diddordeb
Esiampl tendr dylunio - mynegi diddordeb
Gwiriadau man chwarae cyffredin
Holiadur chwarae'r tu allan
Taflen archwiliad man chwarae
Taflen sgorio - mynegi diddordeb