-
Amgueddfeydd a’r sector diwylliant
Mae’r rhifyn hwn yn darparu gwybodaeth ar sut all y sector diwylliannol gefnogi a dylanwadu ar gyfleoedd i blant a phlant yn eu harddegau chwarae. Mae wedi ei anelu at reolwyr ac arweinyddion strategol er mwyn adeiladu ar y ddealltwriaeth a’r diddordeb cynyddol i gefnogi chwarae plant yn y sector diwylliannol. Mae hyn yn cynnwys amgueddfeydd ac orielau, safleoedd treftadaeth ac atyniadau ymwelwyr.
Mae gan amgueddfeydd, orielau a chanolfannau diwylliannol doreth o brofiad a dealltwriaeth o blant a theuluoedd fel ymwelwyr. Mae chwarae’n cyfoethogi lles corfforol ac emosiynol plant ac mae gan y sector diwylliannol wir ddiddordeb ymgysylltu’n ddyfnach gyda chwarae plant.
Yn y rhifyn hwn, rydym yn edrych ar:
- Bwysigrwydd chwarae ar gyfer iechyd a lles plant
- Polisi cenedlaethol a rhyngwladol ar chwarae
- Sut all awdurdodau lleol a’r sector diwylliannol ymateb
- Camau gweithredu ar gyfer creu mannau ac arferion diwylliannol mwy chwareus
- Enghraifft o dîm datblygu chwarae ac amgueddfa yn gweithio gyda’i gilydd i gefnogi chwarae.
Gweld ar-lein Lawrlwytho -
Cefnogi hawl plant i chwarae mewn ysgolion
Mae’r rhifyn hwn o Ffocws ar chwarae yn cynnig gwybodaeth ac arweiniad ar gyfer penaethiaid, athrawon a llywodraethwyr ysgolion. Mae’n ystyried rôl allweddol chwarae plant wrth hybu iechyd meddwl positif ac mae’n trafod ffyrdd y gall ysgolion hyrwyddo chwarae wrth i ni barhau i helpu plant i ddelio â’r ansicrwydd maent wedi ei wynebu.
Wedi ei ysgrifennu’n wreiddiol i gefnogi ysgolion ail-agor ar ôl cyfnodau clo’r coronafeirws, mae’r Ffocws ar chwarae hwn yn cynnwys gwybodaeth am:
- Yr hawl i chwarae
- Chwarae a lles
- Creu amodau ar gyfer chwarae
- Rôl ysgolion i gefnogi chwarae
- Camau gweithredu er mwyn rhoi polisi ar waith.
Er bod y rhifyn hwn wedi ei anelu at benaethiaid, athrawon a llywodraethwyr ysgolion, mae’n cynnig gwybodaeth defnyddiol ar gyfer y rheini sydd â chyfrifoldeb am ddarparu cyfleoedd i blant chwarae.Gweld ar-lein Lawrlwytho -
Cynghorau tref a chymuned
Mae’r papur briffio hwn ar gyfer cynghorau tref a chymuned yn cynnig gwybodaeth ar sut i gefnogi cyfleoedd gwell i blant chwarae yn eu cymunedau. Mae plant a phobl ifanc angen ac mae ganddynt hawl i gael amser a mannau o safon ar gyfer chwarae fel rhan o’u bywydau bob dydd yn eu cymunedau eu hunain.
Mae cynghorau tref a chymuned, ac felly gynghorwyr hefyd, yng Nghymru mewn sefyllfa dda i fod yn hyrwyddwyr chwarae ar ran y cymunedau y maent yn eu gwasanaethu ac yn byw ynddynt.
Gweld ar-lein Lawrlwytho -
Canolbwyntio ar gydnabod a deall pwysigrwydd darpariaeth gwaith chwarae mynediad agored yn y gymuned
Mae'r rhifyn hwn o Ffocws ar chwarae yn canolbwyntio ar gydnabod a deall pwysigrwydd darpariaeth gwaith chwarae mynediad agored yn y gymuned.
Mae darpariaeth gwaith chwarae mynediad agored yn ymateb i anghenion plant, teuluoedd a chymunedau. Yn y rhifyn hwn, rydym yn archwilio sud mae chwarae’n cyfrannu at wytnwch a lles plant a sut mae darpariaeth gwaith chwarae mynediad agored yn cynnig cymorth i bob plentyn a’u rhieni.
Gweld ar-lein Lawrlwytho -
Ailagor parciau, ardaloedd chwarae a mannau agored ar gyfer chwarae plant
Mae’r rhifyn hwn o Ffocws ar chwarae yn cynnig gwybodaeth ac arweiniad i swyddogion parciau a mannau agored a rheolwyr meysydd chwarae. Mae’n amlinellu rhywfaint o’r ffactorau i’w hystyried wrth lunio penderfyniadau ynghylch pa fannau fydd ac a hyrwyddir ar gyfer chwarae a sicrhau cyfleoedd chwarae digonol. Mae’n cynnwys gwybodaeth am:
- Lacio’r cyfyngiadau symud – ailagor mannau ar gyfer chwarae
- Mathau o fannau chwarae a hamdden
- Sicrhau lle ar gyfer chwarae – cwestiynau i’w hystyried.
Rydym yn sylweddoli dan yr amgylchiadau presennol, ’does fawr yn aros yr un fath a byddwn yn diweddaru’r papur briffio hwn fel y bydd gwybodaeth newydd yn dod i law.
Gweld ar-lein Lawrlwytho -
Chwarae a chynghorwyr sir
Mae’r rhifyn hwn o Ffocws ar chwarae ar gyfer cynghorwyr sir ledled Cymru yn cynnwys gwybodaeth am ddyletswyddau statudol ar awdurdodau lleol i asesu a sicrhau cyfleoedd chwarae digonol ar gyfer plant yn eu hardal.
I hysbysu cynghorwyr, mae Ffocws ar chwarae: chwarae a chynghorwyr sir yn ceisio ateb y cwestiynau canlynol:
- Pam fod Llywodraeth Cymru wedi deddfu dros chwarae?
- Beth ydw i angen ei wybod am ddigonolrwydd chwarae?
- Ydi’r ddyletswydd wedi gwella deilliannau ar gyfer plant?
- Sut allwn ni wneud yn si?r bod digon o chwarae pan mae cyn lleied o arian?
- Beth alla’ i ei wneud i gefnogi digonolrwydd chwarae yn y cyngor?
Gweld ar-lein Lawrlwytho -
Chwarae a thrafnidiaeth
Mae’r rhifyn hwn o Ffocws ar chwarae ar gyfer swyddogion adrannau polisi a rheoli trafnidiaeth awdurdodau lleol yn darparu gwybodaeth ar sut y mae cynllunio trafnidiaeth yn dylanwadu ar gyfleoedd plant i chwarae. Mae plant a phlant yn eu harddegau angen, ac mae ganddynt hawl i gael, mannau o safon ar gyfer chwarae fel rhan o’u bywyd bob dydd yn eu cymuned eu hunain.
Mae’n cynnwys gwybodaeth am:
- Bwysigrwydd chwarae ar gyfer iechyd a lles
- Bolisi cenedlaethol a rhyngwladol
- Effaith y car
- Gamau gweithredu lleol posibl allai sicrhau digonolrwydd chwarae
- Ganolbwyntio ar y daith
- Chwarae stryd.
Gweld ar-lein Lawrlwytho -
Chwarae ac addysg
Mae’r rhifyn hwn o Ffocws ar chwarae ar gyfer swyddogion addysg awdurdodau lleol yn darparu gwybodaeth ar sut y mae gwasanaethau addysg yn dylanwadu ar gyfleoedd plant i chwarae. Mae plant a phlant yn eu harddegau angen, ac mae ganddynt hawl i gael, mannau o safon ar gyfer chwarae fel rhan o’u bywyd bob dydd yn eu cymuned eu hunain.
Mae’n cynnwys gwybodaeth am:
- Bwysigrwydd chwarae ar gyfer iechyd a lles
- Bolisi cenedlaethol a rhyngwladol
- Gamau gweithredu lleol posibl allai sicrhau digonolrwydd chwarae
- Werthfawrogi chwarae
- Ystadegau allweddol.
Gweld ar-lein Lawrlwytho -
Chwarae a Chynllunio Gwlad a Thref
Mae’r rhifyn hwn o Ffocws ar chwarae ar gyfer swyddogion yn adrannau cynllunio awdurdodau lleol yn darparu gwybodaeth ar sut y mae cynllunio’n dylanwadu ar gyfleoedd plant i chwarae. Mae plant a phlant yn eu harddegau angen, ac mae ganddynt hawl i gael, mannau o safon ar gyfer chwarae fel rhan o’u bywyd bob dydd yn eu cymuned eu hunain.
Mae’n cynnwys gwybodaeth am:
- Pwysigrwydd chwarae ar gyfer iechyd a lles
- Polisi cenedlaethol a rhyngwladol
- Cynllunio ar gyfer chwarae
- Camau gweithredu lleol posibl allai sicrhau digonolrwydd chwarae
- Ymgysylltu gyda datblygwyr
- Amgylchedd chwarae cyfoethog.
Gweld ar-lein Lawrlwytho -
Darparwyr ac ymarferwyr gofal plant
Mae’r rhifyn hwn o Ffocws ar chwarae ar gyfer darparwyr ac ymarferwyr gofal plant yn cynnwys gwybodaeth ar sut i gefnogi cyfleoedd gwell i blant chwarae yn eu lleoliadau. Mae plant a phobl ifanc angen ac mae ganddynt hawl i gael amser a mannau o safon ar gyfer chwarae fel rhan o’u bywydau bob dydd.
Mae’n cynnwys gwybodaeth am:
- chwarae er mwyn chwarae
- bwysigrwydd chwarae
- bolisi cenedlaethol a rhyngwladol
- ddarparu lle i chwarae
- sicrhau bod deunyddiau ar gael i chwarae
- greu amser i chwarae mewn lleoliadau gofal plant
- sicrhau caniatâd i chwarae
- arddulliau ymyrryd ar gyfer chwarae.
Gweld ar-lein Lawrlwytho -
Gweithwyr proffesiynol iechyd y cyhoedd
Mae plant a phobl ifanc angen ac mae ganddynt hawl i gael amser a mannau o safon ar gyfer chwarae fel rhan o’u bywydau bob dydd yn eu cymunedau eu hunain.
Mae’n cynnwys gwybodaeth am:
- bwysigrwydd chwarae ar gyfer iechyd a lles plant
- chwarae a gweithgarwch corfforol
- chwarae a lles emosiynol
- mynd i’r afael a Phrofiadau yn Ystod Plentyndod trwy chwarae
- creu amser ar gyfer chwarae’r tu allan mewn lleoliadau
- rôl ysgolion iach
- rôl gweithwyr proffesiynol iechyd y cyhoedd wrth hybu chwarae.
Gweld ar-lein Lawrlwytho