-
Gweld ar-lein Lawrlwytho Ysgol chwarae gyfeillgar
Mawrth 2020
Mae Ysgol chwarae gyfeillgar – Canllaw ar gyfer agwedd ysgol gyfan yn cynnwys gwybodaeth sy’n ymwneud â pholisi ag arfer er mwyn helpu cymunedau ysgolion i fabwysiadu agwedd ysgol gyfan er mwyn cefnogi hawl plant i chwarae.
Mae wedi ei ddatblygu er mwyn ymateb i adroddiad Estyn Iach a hapus – Effaith yr ysgol ar iechyd a llesiant disgyblion, sy’n nodi pwysigrwydd amserau chwarae ac egwyl mewn ysgolion.
Mae’r canllaw wedi ei ddylunio i gyfoethogi’r gwaith da sy’n cael ei wneud eisoes i ddarparu gwell cyfleoedd chwarae mewn ysgolion ac mae’n anelu i wneud amser pawb yn yr ysgol yn hapusach ac iachach.
Ceir nifer o adnoddau cefnogol i gyd-fynd â’r canllaw. Maent i gyd ar gael i’w lawrlwytho.
Mae Ysgol chwarae gyfeillgar – Canllaw ar gyfer agwedd ysgol gyfan yn cael ei gymeradwyo gan: Canolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil ar Iechyd a Llesiant y Boblogaeth, Canolfan Gyfreithiol y Plant Cymru, Health & Attainment of Pupils in a Primary Education Network (HAPPEN) a Plant yng Nghymru.
Adnoddau cefnogol:
Awgrymiadau anhygoel ar gyfer cefnogi chwarae plant
Datblygu canllawiau ar gyfer amser chwarae yn ystod tywydd gwael