-
Plentyndod, chwarae a’r Egwyddorion Gwaith Chwarae
Mae Plentyndod, chwarae a’r Egwyddorion Gwaith Chwarae yn edrych ar rai o’r damcaniaethau sy’n dylanwadu ar y modd mae oedolion yn deall plant, rôl chwarae a phlentyndod, yn ogystal ag egwyddorion gweithio gyda phlant sy’n chwarae. Mae’n:
- archwilio rhai o’r syniadau, y cysyniadau a’r damcaniaethau datblygiad plant a phlentyndod sydd wedi dylanwadu, ac sy’n dal i ddylanwadu, ar ddealltwriaeth o blant a’u chwarae ac sydd, o ganlyniad, yn bwysig i bobl sy’n arfer gwaith chwarae.
- edrych ar y rôl gwaith chwarae a sut mae’n effeithio ar, yn ogystal â chael ei effeithio gan, yr amgylchedd a’r plant. Mae’n ystyried sut y rhoddir blaenoriaeth i’r broses chwarae a sut y mae gweithwyr chwarae’n cydbwyso buddiannau datblygiadol chwarae gyda lles plant.
Dyma'r cyntaf mewn cyfres o bedwar canllaw gwaith chwarae, sy'n gasgliad o adnoddau ar gyfer pawb sy’n gweithio gyda phlant sy’n chwarae.
Gweld ar-lein Lawrlwytho