-
Gweld ar-lein Lawrlwytho Canllaw Cymunedau Chwareus
Mae’n bwysig gwneud yn si?r bod gan blant le, amser a chaniatâd i chwarae – dyma’r amodau sy’n cefnogi chwarae. Pan fo’r amodau hyn yn iawn ac yn eu lle, bydd plant yn chwarae. Fodd bynnag, mae rhwystrau a heriau all effeithio ar y rhyddid a’r annibyniaeth y mae plant eu hangen i chwarae.
Mae’r canllaw newydd hwn yn anelu i fynd i’r afael â’r rhwystrau hynny a sicrhau bod plant yn cael digon o amser, lle a chaniatâd i chwarae fel rhan o’u bywyd bob dydd. Mae Cymunedau Chwareus yn amlinellu yr hyn ellir ei wneud i wneud cymunedau yn fwy chwareus ac mae’n cynnwys enghreifftiau o sut y mae wedi ei wneud mewn ardaloedd eraill o Gymru.
Anelir y canllaw at rieni, gofalwyr, grwpiau cymunedol a’r rheiny sy’n gweithio â phlant a theuluoedd.
Datblygwyd y canllaw hwn mewn partneriaeth â Gwasanaeth Ieuenctid a Chwarae Wrecsam