-
Awgrymiadau anhygoel: chwarae a lles
Chwarae Cymru, Ebrill 2020
Chwarae yw’r ffordd fwyaf naturiol a phleserus i blant gadw’n iach a bod yn hapus. Gall gyfrannu at well lles i bawb yn ystod cyfnodau o ansicrwydd. Er gwaetha’r pandemig presennol, bydd plant yn dal angen ac eisiau chwarae. Mae chwarae’n helpu plant i reoli eu hemosiynau a gwneud synnwyr o’u sefyllfa.
Er mwyn helpu rhieni i gefnogi chwarae plant yn ystod adegau o straen, rydym wedi creu rhestr o awgrymiadau anhygoel.
Gweld ar-lein Lawrlwytho -
Awgrymiadau anhygoel: gwaith chwarae a coronafeirws
Chwarae Cymru, Ebrill 2020
Ar hyd a lled Cymru, mae gweithwyr chwarae yn dod i delerau gyda gweithio mewn ffordd wahanol i gefnogi chwarae plant. Mae amser i baratoi a chynllunio ar gyfer hyn wedi bod yn brin, ond fel gweithwyr chwarae byddwn am weithio allan sut y gallwn ni gefnogi plant yn ystod y cyfnod ansicr hwn.
Felly, i helpu gweithwyr chwarae i barhau i gefnogi plant yn ystod y pandemig coronafirws rydym wedi rhoi rhestr o awgrymiadau anhygoel at ei gilydd
Gweld ar-lein Lawrlwytho -
Awgrymiadau anhygoel – chwarae, ysgolion a coronafirws
Chwarae Cymru, Ebrill 2020
Yn ystod cyfnodau’n llawn ansicrwydd, mae chwarae yn helpu plant mewn nifer o ffyrdd. Felly, i helpu staff a’r plant sydd yn eu gofal rydym wedi rhoi rhestr o awgrymiadau anhygoel at ei gilydd i ysgolion gefnogi chwarae’n ystod cyfnodau o straen.
Gweld ar-lein Lawrlwytho -
Awgrymiadau anhygoel - Dod o hyd i ddarparwr hyfforddiant gwaith chwarae
Chwarae Cymru, Mehefin 2019
Waeth os ydych chi’n chwilio am weithdy hyfforddiant neu gymhwyster, gall hyfforddiant gwaith chwarae amrywio’n fawr iawn o ran ansawdd.
Mae’r awgrymiadau anhygoel hyn wedi eu dylunio i’ch cefnogi i wneud y gorau o’ch amser a’ch cyllideb hyfforddiant trwy restru rhywfaint o bethau ichi eu hystyried i’ch helpu wrth ddethol eich darparwr hyfforddiant.
Gweld ar-lein Lawrlwytho -
Awgrymiadau anhygoel ar gyfer arfer myfyriol
Mae’n awgrymiadau anhygoel yn cynnig pwyntiau allweddol i’w hystyried i wneud arfer myfyriol mor effeithiol a defnyddiol a phosibl i gefnogi ein dysg parhaus.
Mae’r awgrymiadau anhygoel wedi eu hanelu at weithwyr chwarae a gweithwyr proffesiynol eraill sydd ynghlwm â chwarae plant.
Gweld ar-lein Lawrlwytho -
Awgrymiadau anhygoel: Datblygiad Proffessional Parhaus
Chwarae Cymru, Mehefin 2017
Mae'r Awgrymiadau anhygoel: Datblygiad Proffesiynol Parhaus wedi eu hanelu at weithwyr chwarae a gweithwyr proffesiynol eraill sydd ynghlwm â chwarae plant.
Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) yw sut y bydd unigolion yn gwella eu perfformiad yn eu gwaith trwy fynd ati i ddysgu trwy amrywiaeth eang o weithgareddau. Mae rhaglen ddysgu pawb yn bersonol iddyn nhw – fydd un rhaglen ddim yn gweddu i bawb.
Gweld ar-lein Lawrlwytho -
Awgrymiadau anhygoel: amser sgrin a chwarae digidol
Chwarae Cymru, Mai 2017
Mae nifer ohonom yn ei chael yn anodd canfod yr ateb i’r heriau sy’n ymwneud ag amser sgrin a sut i gefnogi plant a phobl ifanc i ymwneud a rhyngweithio gyda chwarae digidol
mewn modd buddiol a chytbwys. Mae gennym, fel oedolion, rôl bwysig i’w chwarae wrth gefnogi plant mewn byd digidol.I gefnogi agwedd gytbwys tuag at amser sgrin a chwarae digidol rydym wedi datblygu awgrymiadau anhygoel.
Gweld ar-lein Lawrlwytho -
Awgrymiadau anhygoel ar gyfer Diwrnod Ystafell Ddosbarth Tu Allan
Chwarae Cymru, Hydref 2016
Mae Diwrnod Ystafell Ddosbarth Tu Allan yn ddiwrnod i blant ym mhobman fwynhau dysgu a chwarae’r tu allan i’r ystafell ddosbarth. Ar Ddiwrnod Ystafell Ddosbarth Tu Allan mae ysgolion yn ymrwymo i dreulio o leiaf un wers y tu allan y diwrnod hwnnw ac mae Chwarae Cymru’n annog ysgolion i neilltuo’r diwrnod ar gyfer chwarae.
Gweld ar-lein Lawrlwytho -
Awgrymiadau anhygoel – gwneud amser i chwarae
Chwarae Cymru, Awst 2016
Pan fyddwn yn gofyn beth sy’n bwysig iddynt, bydd plant yn dweud wrthym mai chwarae a bod gyda’u ffrindiau yw un o agweddau pwysicaf eu bywydau.
Mae Chwarae Cymru yn eiriol dros fabwysiadu agwedd rad tuag at wneud y gorau o amser rhydd plant – rhoddwch amser iddynt chwarae. Rydym wedi tynnu ynghyd ein awgrymiadau anhygoel ar gyfer gwneud amser i blant chwarae.
Gweld ar-lein Lawrlwytho -
Gwnewch i ffwrdd â'r bubble wrap
Chwarae Cymru, Mawrth 2016
Cynghorion ar sut y gall oedolion gefnogi angen plant am chwarae'n llawn risg.
Gweld ar-lein Lawrlwytho -
10 awgrym anhygoel ar gyfer codi arian
Chwarae Cymru, Chwefror 2016
Awgrymiadau anhygoel ar gyfer codi arian i gefnogi prosiectau chwarae.
Tynnwyd yr awgrymiadau o lyfryn Yr Athro Fraser Brown The Venture: A Case Study of an Adventure Playground (Chwarae Cymru, 2007).
Gweld ar-lein Lawrlwytho