Mae Chwarae Cymru yn cynhyrchu cyhoeddiadau sy'n cynyddu ymwybyddiaeth ynghylch chwarae plant a phobl ifanc ac arfer da wrth ei ddarparu. Rydym yn cyhoeddi llyfrau, cylchgrawn a thaflenni gywbodaeth ar ystod eang o bynciau.
Rydym yn darparu gwasanaeth cyhoeddiadau ehangach i aelodau gan gynnwys efwletinau bob yn ail mis gyda newyddion, nawdd, ymchwil a chyhoeddiadau newydd; golwg ymlaen llaw ar daflenni gwybodaeth, erthyglau cylchgronnau a chyhoeddiadau eraill Chwarae Cymru; mynediad i'n ymatebion i ymgynghoriadau.
Lleolir Llyfrgell Chwarae Cymru yn ein swyddfa ym Mae Caerdydd. Mae gennym hefyd gasgliad llai o lyfrau ac adnoddau cyfeiriol yn y llyfrgell ym Mhrifysgol Glyndŵr yn Wrecsam. Credwn mai hwn yw'r casgliad mwyaf cynhwysfawr o lyfrau ar chwarae plant a darpariaeth chwarae yng Nghymru.
Cyhoeddiadau cyfredol
Ceir fwy o wybodaeth am ein holl gyhoeddiadau - pecynnau cymorth, cylchgronnau, awgrymiadau anhygoel, llyfrau stori a mwy - yn y golofn las ar y dde.