Caiff hawl plant a phobl ifainc i gyfranogi ym mhob mater sy'n effeithio arnynt ei ddiogelu gan Erthygl 12 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CCUHP).
Pan roddir cyfle iddynt gyfranogi, rhoddir cyfle hefyd i bobl ifainc sicrhau newid yn bersonol yn eu bywydau, yn eu cymunedau ac yn fyd-eang.
Mae Chwarae Cymru wedi cynhyrchu taflen wybodaeth Cyfranogiad plant mewn cynllunio ac asesu i gefnogi Awdurdodau Lleol gyda chyfranogiad a chynnwys plant a phobl ifainc mewn prosesau cynllunio ac asesu.
I gyd-fynd â'r daflen wybodaeth rydym wedi cynhyrchu Esiampl o Gwestiynau Arolwg Barn a Nodiadau i Hwyluswyr a Ffurflen Monitro Arolwg Barn ar gyfer hwyluswyr.
Lawrlwytho taflen wybodaeth Cyfranogiad plant mewn cynllunio ac asesu
Lawrlwytho Esiampl o Gwestiynau a Nodiadau i Hwyluswyr
Lawrlwytho Ffurflen Monitro Arolwg Barn