
Dyma grynodeb o gyfleoedd ariannu sydd ar agor ar gyfer ceisiadau ar hyn o bryd.
Grant Arloesi Cyfleoedd Chwarae Digonol Wrecsam 2020-2021
Mae Grant Arloesi Cyfleoedd Chwarae Digonol Wrecsam 2020 i 2021 yn anelu i wella cyfleoedd chwarae plant a phobl ifanc ledled y sir.
Gall sefydliadau neu grwpiau sy’n gweithio gyda phlant neu weithio i’w cefnogi a’u cyfleoedd i chwarae yn Wrecsam wneud cais am hyd at £2,000. Yn dibynnu ar y galw am gyllid, gall Tîm Cefnogi Chwarae ac Ieuenctid Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam benderfynu rhoi mwy neu lai o gyllid i brosiectau na’r hyn a ofynnwyd yn wreiddiol.
Sefydlwyd y gronfa mewn ymateb i Lywodraeth Cymru yn gwneud cyllid ar gael i gefnogi chwarae plant a’r Ddyletswydd Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae.
Dyddiad cau ar gyfer danfon ceisiadau: 15 Ionawr 2021
Am ragor o wybodaeth, ebostiwch Tîm Cefnogi Chwarae ac Ieuenctid Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Arts-based Learning Fund
Bydd yr Arts-based Learning Fund gan y Paul Hamlyn Foundation yn cefnogi gwaith sy’n galluogi disgyblion mewn lleoliadau addysg ffurfiol i lwyddo trwy ymgysylltu â dysgu sy’n seiliedig ar y celfyddydau.
Mae gan y sefydliad ddiddordeb penodol mewn ceisiadau sy’n cefnogi disgyblion sy’n profi anfantais systemig i gael mynediad a gwneud cynnydd yn eu dysgu. Mae grantiau rhwng £30,000 a £400,000 ar gael.
Cronfa Trawsnewid Cymorth Cynnar
Mae Cronfa Trawsnewid Cymorth Cynnar yn ariannu sefydliadau sy’n gweithio gyda theuluoedd yn Sir y Fflint. Mae Cyngor Sir y Fflint, mewn partneriaeth gyda Chyngor Gwirfoddol Lleol Sir y Fflint, yn cynnig ariannu i ddarparu help cynnar i deuluoedd yn Sir y Fflint sydd wedi eu heffeithio’n arw gan bandemig Covid-19.
Bydd y gronfa yn buddsoddi mewn prosiectau sy’n mynd i’r afael ag un o’r tair blaenoriaeth:
- Rhieni sy’n dioddef o broblemau iechyd meddwl lefel isel neu ganolig sy’n effeithio ar eu gallu i gefnogi eu plant
- Teuluoedd lle mae plant yn profi Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACEs)
- Teuluoedd sy’n aros am asesiad llwybr niwroddatblygiadol ar gyfer eu plentyn.
Grantiau Masonic Charitable Foundation
Mae grantiau bach a mawr y Masonic Charitable Foundation ar agor i elusennau cenedlaethol a lleol sy’n helpu plant a phlant yn eu harddegau difreintiedig i oresgyn y rhwystrau sy’n eu hwynebu.
Gyda grantiau rhwng £1,000 a £15,000 ar gael, mae’r grant bach ar gyfer elusennau sydd gydag incwm blynyddol sy’n llai na £500,000.
Mae’r grant mawr ar gyfer elusennau sydd gydag incwm blynyddol sy’n fwy na £500,000. Mae grantiau rhwng £10,000 a £60,000 ar gael i ariannu prosiectau a gellir ei ddefnyddio ar gyfer costau cyflogau, gweithgareddau a deunyddiau.
Cronfa Gymunedol COVID-19 Tesco Bags of Help
Mae Cronfa Gymunedol COVID-19 Tesco Bags of Help yn darparu grantiau o £1000 i brosiectau sy’n canolbwyntio ar blant a phobl ifanc lleol. Mae’r prosiectau yn cynnwys gweithgareddau yn yr awyr agored a chefnogaeth iechyd meddwl.
Bydd y grantiau yn cael eu rhoi i sefydliadau gwirfoddol a chymunedol, ysgolion, cyrff iechyd, awdurdodau lleol a darparwyr tai cymdeithasol.
Cronfa Cymru Actif
Mae Chwaraeon Cymru yn darparu grantiau o £300 i £50,000 i glybiau chwaraeon a sefydliadau neu grwpiau cymunedol sy’n helpu pobl i fod yn actif a chymryd rhan mewn chwaraeon. Mae’r grantiau yn ymateb uniongyrchol Chwaraeon Cymru i’r pandemig coronafeirws.
Dau brif bwrpas Cronfa Cymru Actif yw i:
- Ddiogelu clybiau a sefydliadau cymunedol sy’n wynebu risg ariannol ar unwaith ac sydd angen cefnogaeth
- Ddarparu cefnogaeth ariannol i helpu i baratoi clybiau a sefydliadau i ailddechrau, ymateb i, neu i dyfu cyfranogiad.
Grant Busnes Newydd
Mae’r Prif Weinidog, Mark Drakeford wedi cyhoeddi grant newydd i gefnogi busnesau newydd i ddelio gydag effaith y coronafeirws. Bydd y grant dechrau busnes newydd yn cefnogi busnesau sydd y tu allan i Gynllun Cymorth Incwm i’r Hunangyflogedig Llywodraeth y DU, gyda £2,500 yr un.
I fod yn gymwys ar gyfer grant dechrau busnes, mae’n rhaid i fusnesau:
- fod heb dderbyn cyllid gan Gronfa Cadernid Economaidd Llywodraeth Cymru na’r grant ardrethi annomestig
- fod wedi eu sefydlu rhwng 1 Ebrill 2019 a 1 Mawrth 2020 a heb fod yn gymwys ar gyfer Cynllun Cymorth Incwm i’r Hunangyflogedig Llywodraeth y DU
- fod â llai na £50,000 o drosiant
- fod wedi gweld gostyngiad mewn trosiant o dros 50 y cant rhwng Ebrill a Mehefin 2020.
Bydd yn rhaid i ymgeiswyr gyflwyno ffurflen gais ddwy dudalen a datganiad personol gyda thystiolaeth ategol. Caiff y grant ei weinyddu gan awdurdodau lleol a gall busnesau wirio a ydynt yn gymwys drwy edrych ar wefan Busnes Cymru.
Cronfa Rhyddhad Moondance Covid-19
Mae Moondance Foundation wedi sicrhau bod arian ychwanegol ar gael yn benodol i gynorthwyo mudiadau i barhau â’u gweithrediadau yn ystod yr argyfwng coronafeirws.
Bydd y gronfa yn ystyried ceisiadau am unrhyw un o’r canlynol:
- Cadw staff
- Gweithgareddau a gwasanaethau cyfredol sydd yn y fantol
- Esblygiad gwasanaethau i addasu i’r argyfwng presennol.
Grantiau Ymddiriedolaeth Elusennol Yapp
Mae’r Yapp Charitable Trust yn darparu grantiau ar gyfer costau rhedeg a chyflogau i elusennau cofrestredig bach yng Nghymru a Lloegr i helpu i gynnal eu gwaith presennol.
Gall elusennau bach sy’n mynd i’r afael ag effaith y coronafeirws wneud cais am y cyllid tuag at eu costau craidd parhaus.
Sefydliad Steve Morgan
Fel ymateb i’r pandemig Coronafeirws, mae Sefydliad Steve Morgan eisiau cefnogi elusennau a chwmnïau dielw sydd wedi ei lleoli yng ngogledd Cymru, Sir Gaer a Glannau Mersi. Mae’r gronfa, ar agor i gefnogi elusennau sy’n colli refeniw codi arian oherwydd y feirws.
Cronfa gwydnwch trydydd sector Cymru
Mae Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA), mewn cydweithrediad â Llywodraeth Cymru, wedi cyflwyno Cronfa gwydnwch trydydd sector Cymru i gynnig cymorth llif arian i helpu mudiadau corfforaethol yn y sector gwirfoddol drwy’r argyfwng presennol.
Bydd yn gymysgedd o 75 y cant o grant a 25 y cant o fenthyciad di-log. Gall mudiadau wneud cais am hyd at £75,000, a’i ddefnyddio ar gyfer costau gwariant refeniw parhaus, gan gynnwys cyflogau.
Cronfa argyfwng y gwasanaethau gwirfoddol
Mae WCVA wedi cyflwyno’r Gronfa argyfwng y gwasanaethau gwirfoddol i helpu ariannu mudiadau sy’n darparu cefnogaeth i grwpiau allweddol, megis pobl sy’n cael trafferth cael mynediad i fwyd.
Bydd grantiau’n cefnogi mudiadau dielw sy’n gweithio ar raddfa gymunedol hyd at lefel genedlaethol yng Nghymru a gall fod rhwng £10,000 a £100,000.
Mae nodau’r grant yn cynnwys:
- Cynnal neu gynyddu gweithgareddau sy’n cefnogi’r rhai mwyaf agored i niwed yn ystod y pandemig coronafeirws
- Sicrhau bod gan fudiadau gwirfoddol/y trydydd sector yr adnoddau angenrheidiol er mwyn darparu gwasanaethau hanfodol i’w cymunedau.
Ariannu COVID 19 Cymunedol Brys
Mae Cronfa Gymunedol Fferm Wynt Pen y Cymoedd yn cynnig ariannu brys, ar garlam ar gyfer sefydliadau yn ardal Nedd, Afan, Rhondda a Chynon. Rhannir y cyllid i ddau edefyn:
- Cronfa Goroesi – er mwyn darparu cyllid llif arian brys ar gyfer sefydliadau sydd mewn perygl o gau
- Cronfa Prosiectau – er mwyn cefnogi gwasanaethau ychwanegol sy’n diwallu anghenion cymunedol yn y dyfodol agos iawn.
Arian i Bawb y Loteri Genedlaethol Cymru
Mae Arian i Bawb y Loteri Genedlaethol Cymru yn edrych i ariannu prosiectau sydd yn dod a phobl ynghyd a chreu perthnasau cryf mewn ac ar draws cymunedau. Hefyd, mae eisiau ariannu prosiectau sydd yn gwella’r mannau a’r gofodau sy’n bwysig i gymunedau. Mae grantiau’n amrywio o £300 i £10000.
Pwy all ymgeisio?
- Sefydliadau gwirfoddol neu gymunedol
- Elusennau cofrestredig
- Grwpiau neu glybiau sydd wedi eu cyfansoddi
- Cwmnïau dielw neu gwmniau budd cymunedol
- Ysgolion
- Cyrff statudol.
The Thomas Howell’s Education Fund for North Wales
Gall ysgolion a mudiadau sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc dan anfantais (oedran ysgol hyd at dan 25) wneud cais am grant gan The Thomas Howell’s Education Fund for North Wales. Mae’r elusen yn ystyried ceisiadau ariannu dair gwaith y flwyddyn.
Ystyrir grantiau i wella’r cyfleoedd addysgiadol sydd ar gael i bobl ifanc yn unrhyw un o chwe sir gogledd Cymru (Ynys Môn, Gwynedd, Conwy, Sir Ddinbych, Sir Y Fflint a Wrecsam):
- sydd dan anfantais oherwydd caledi ariannol
- sydd yn anabl
- sydd â dyheadau isel, sydd wedi eu gwahardd, mewn perygl neu sydd â diffyg cyfleoedd.
The Ragdoll Foundation – Cynllun Grantiau Agored
Mae Cynllun Grantiau Agored y Ragdoll Foundation yn cefnogi sefydliadau sy'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc gan ddefnyddio'r celfyddydau a chyfryngau creadigol. Mae grantiau hyd at £50,000 ar gael ond bydd y rhan fwyaf o grantiau rhwng £5,000 ac £20,000.
Mae’r Sefydliad yn edrych i gefnogi prosiectau sy’n:
- amlygu p?er y celfyddydau a chreadigrwydd a'u p?er trawsffurfiol i blant a phobl ifanc
- hybu datblygiad plant trwy eu meddwl dychmygus
- sicrhau gwerthusiad effeithiol o brosiectau i hyrwyddo rhannu a dysgu
- dangos sut y gellir clywed pryderon plant.
Mae gan y Ragdoll Foundation ddiddordeb mewn ariannu prosiectau a fydd o fudd i blant hyd at 10 mlwydd oed ond ystyrir prosiectau a fydd o fudd i bobl ifanc hyd at 18 mlwydd oed.
Foyle Foundation
Mae Cynllun Grantiau Bychain y Foyle Foundation wedi ei ddylunio i gefnogi elusennau bychain yn y UK, yn bennaf y rheiny sy’n gweithio ar lawr gwlad ac ar lefel cymuned leol, ar draws amrywiaeth eang o weithgareddau.
Mae’r Foyle Foundation yn bwriadau rhoi grantiau blwyddyn rhwng £1,000 a £10,000 ar gyfer costau craidd, offer neu ariannu prosiect i elusennau sy’n gallu dangos y byddai grant o’r fath yn gwneud gwahaniaeth sylweddol i’w gwaith.
Bags of Help Tesco
Defnyddir cynllun grantiau cymunedau lleol Bags of Help Tesco i ariannu miloedd o brosiectau cymunedol ledled y DU. Erbyn hyn mae Bags of Help ar agor i geisiadau gan grwpiau cymunedol drwy’r amser.
Yn dilyn proses o lunio rhestr fer bydd pleidlais fisol rhwng tri prosiect cymunedol mewn siopau Tesco yng Nghymru, Lloegr a’r Alban. Ym mhob rhanbarth bydd y prosiect sydd wedi derbyn y mwyaf o bleidleisiau ym mhob siop yn eu rhanbarth yn derbyn grant hyd at £5000. Bydd y prosiect yn yr ail safle yn derbyn hyd at £2000 a’r trydydd yn derbyn hyd at £1000. Rhoddir grantiau i fudiadau cymunedol neu wirfoddol (gan gynnwys elusennau/cwmniau cofrestredig), ysgolion, cynghorau plwyf/trefol ac awdurdodau lleol a darparwyr tai cymdeithasol.
Cronfa Gymunedol Viridor a Prosiect Gwyrdd
Gall cynlluniau cymunedol ledled y De fanteisio ar gronfa ac ynddi £50,000 y flwyddyn dros y 25 mlynedd nesaf trwy bartneriaeth werdd newydd. Mae Viridor, y cwmni sy'n gweithio gyda'r 'Prosiect Gwyrdd' sef partneriaeth rhwng cynghorau, wedi cyhoeddi lansiad Cronfa Gymunedol newydd i gefnogi prosiectau yng Nghaerffili, Caerdydd, Sir Fynwy, Casnewydd a Bro Morgannwg.
Gall mudiadau a phrosiectau cymunedol wneud cais am hyd at £3000.
Biffa Award
Trwy ei thema Hamdden mae Biffa Award yn cynnig grantiau i brosiectau sy’n trawsnewid mannau agored er budd y gymuned, gan gynnig mwy o gyfleoedd iddynt gymryd rhan mewn gweithgareddau hamdden. Mae enghreifftiau o brosiectau sy’n disgyn i’r categori hwn yn cynnwys mannau gwyrdd, llwybrau coedwigol, adnoddau chwaraeon a gerddi cymunedol.
Mae grantiau bychain rhwng £250 a £10,000 ar gael.
Sefydliad Garfield Weston
Mae'r Sefydliad yn darparu arian ar gyfer prosiectau yn y DU ym meysydd cyffredinol y canlynol: addysg; y celfyddydau; iechyd; cymuned; ieuenctid; crefydd a lles. Does dim blaenoriaethau penodol ar gyfer ariannu a chefnogir ystod eang o weithgarwch elusennol.
Mae’r sefydliad yn rhoi grantiau sydd dros £1,000
Marsh Christian Trust
Mae grantiau o £250 i £4,000 ar gael i helpu sefydliadau bychain ledled y DU i dalu am gostau rhedeg amrywiol, megis: costau gwirfoddolwyr, dyddiau hyfforddi a chynnal a chadw offer.
Mae gan yr Ymddiriedolaeth ddiddordeb mewn ariannu elusennau sy'n gweithio ym meysydd:
- Llenyddiaeth, celfyddydau a threftadaeth
- Lles cymdeithasol
- Achosion amgylcheddol a lles anifeiliaid
- Addysg a hyfforddiant
- Gofal iechyd.
Mae'r Ymddiriedolaeth yn ariannu elusennau cofrestredig gydag incwm blynyddol llai na £250,000 sydd wedi cael eu sefydlu ers mwy nag un blwyddyn ariannol.
True Colours Trust UK Small Grants Programme
Mae grantiau o hyd at £10,000 ar gael ar gyfer elusennau bychain a phrosiectau yn y DU sy’n gweithio gyda phlant anabl a’u teuluoedd o ddydd i ddydd.
Hoffai'r Ymddiriedolwyr gefnogi:
- Offer chwarae anghenion arbennig / mynediad at chwarae a hamdden
- Pyllau Hydrotherapi
- Ystafelloedd amlsynhwyraidd
- Bysiau mini
- Prosiectau brodyr a chwiorydd
- Cefnogaeth galaru
- Cefnogaeth teulu / cefnogaeth cyfoedion wedi ei arwain gan rieni.