Ar ein gwefan Plentyndod Chwareus rydym wedi creu adran ‘chwarae dan do’ i ysbrydoli rhieni a gofalwyr pan fydd y plant, efallai, angen rhywfaint o syniadau chwarae. Mae’r adran yn cynnwys syniadau chwareus, hawdd a hwyliog i blant eu mwynhau yn ac o amgylch y cartref yn osgystal â awgrymiadau ymarferol a chefnogol ar gyfer rhieni a gofalwyr.
Mae’r adran yn cynnwys tudalennau yn amrywio o awgrymiadau anhygoel ar gyfer creu cuddfannau yn y cartref, i lliwio, i sut i ddelio gyda chwarae poitshlyd, i syniadau ar gyfer magu plant yn chwareus.
Adnoddau
Canllaw chwarae adref
Canllaw defnyddiol i helpu rhieni a gofalwyr i gefnogi eu plant i gael digonedd o gyfleoedd da i chwarae yn y cartref. Mae’n cynnig awgrymiadau a syniadau am chwarae ar gyfer pob plentyn ac argymhellion cefnogol ar gyfer rhieni a gofalwyr.
Chwarae’n egnïol yn ac o amgylch y cartref
Mae’r adnodd hwn yn dwyn ynghyd wybodaeth am sut y mae chwarae egnïol yn gwneud cyfraniad allweddol i iechyd a lles plant yn ystod cyfnodau o straen. Mae hefyd yn archwilio’r hyn y mae canllawiau gweithgarwch corfforol Prif Swyddogion Meddygol y DU yn ei ddweud.
Cefnogi lles plant trwy chwarae
Mae chwarae’n gallu cyfrannu at well lles yn ystod adegau ansicr. Dyma ffordd plant o gefnogi eu hiechyd a’u lles eu hunain. Mae’r awgrymiadau anhygoel hyn yn anelu i helpu rhieni i gefnogi chwarae eu plant yn ystod cyfnodau o straen.
Rhestrau syniadau chwarae
- 35 syniad chwarae dan do
- 50 mwy o syniadau chwarae dan do
- Syniadau chwarae ar gyfer rhieni
- Gemau i’w chwarae gartref.
Erthyglau blog
Mae blog Plentyndod Chwareus hefyd yn cynnwys amrywiaeth o erthyglau newydd, gyda rhai ohonynt wedi eu cyfrannu gan ysgrifennwyr gwadd:
- Chwarae, creadigedd a diflastod yn ystod y cyfyngiadau symud
- Myfyrdodau rhiant sy’n addysgu gartref
- Amser sgrîn – ar gyfer plant o bob oed.
Llyfrau stori
Hwyl yn yr ardd
Hwyl yn yr ardd yw ein llyfr stori diweddaraf am hawl plant i chwarae. Mae’n lyfr dwyieithog ar gyfer plant ysgol gynradd a rhieni, gan gefnogi plant i sicrhau eu hawl i chwarae ac i rieni i eiriol dros chwarae’n lleol.
Rydym wedi gweithio gyda storïwr, cartwnydd, plant blwyddyn 6 yn Ysgol Gynradd Charles Williams yng Nghaerleon a Petra Publishing i gynhyrchu’r llyfr stori.
Gall unrhyw un sydd yn byw neu’n gweithio yng Nghymru – ac sydd wedi cofrestru i’n rhestr bostio – archebu copi yn rhad ac am ddim. Os hoffech chi dderbyn copi yn y post, ebostiwch ni gyda’ch manylion, gan gynnwys cyfeiriad postio.
Hwyl yn y dwnjwn
Rydym hefyd wedi rhyddhau ein llyfr stori gwreiddiol – Hwyl yn y dwnjwn – ar-lein i bawb allu ei ddarllen am gyfnod cyfyngedig. Rydym eisiau i hyd yn oed mwy o blant a’u teuluoedd yng Nghymru, a thu hwnt, allu mwynhau’r stori.